British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Medi 2009, 14:55 GMT 15:55 UK
Iechyd: Canmol gwasanaeth ffn

Un o gynghorwyr y gwasanaeth ffn
Y llynedd fe wnaeth y gwasanaeth dderbyn dros 340,000 o alwadau

Mae gwasanaeth ffôn Galw Iechyd Cymru yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i gleifion yn ôl adroddiad swyddogol.

Dywed bod angen integreiddio'n well gyda gweddill y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru fod y gwasanaeth wedi derbyn dros 340,000 o alwadau ffôn a 450,000 o ymweliadau i'r wefan yn ystod 2008-09.

Mae pob galwad yn costio tua £26 o ran costau staffio ac offer.

Dywed yr adroddiad bod angen gwella amser trin galwadau.

Mae angen gwneud mwy hefyd i hyrwyddo'r gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig.

'Di-dor'

Yn ôl yr arolygydd, Jeremy Colman, mae angen gwneud y drefn yn haws i'w defnyddio.

"Tra bod Galw Iechyd Cymru yn darparu gwasanaethau gwerthfawr, mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei hoffi.

"Ond mae cyfle i'w integreiddio'n llawer mwy effeithiol o fewn y system gofal heb ei drefnu, gan ddarparu gwasanaeth mwy di-dor i'r cyhoedd."

Llwyddodd un o bob tri o bobl wnaeth ffonio'r gwasanaeth ddatrys eu problemau heb orfod troi at wasanaethau eraill, megis meddygon teulu neu unedau brys ysbytai.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Galw Iechyd Cymru fonitro ymddygiad a dewisiadau cleifion yn fwy effeithiol.

Byddai hyn yn eu galluogi i gymryd camau i gefnogi mathau mwy priodol o ofal heb ei drefnu.

Casgliadau

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai'r Byrddau Iechyd newydd ystyried sut y gallai Galw Iechyd Cymru "weithredu fel canolbwynt lle mae pobl yn derbyn gwybodaeth mwya priodol ar gyfer eu hanghenion clinigol, eu hysbysu am y ffordd orau o gael gafael ar ofal heb ei drefnu a hybu iechyd a lles".

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Jonathan Morgan ei fod o'n croesawu'r adroddiad.

"Tra'i bod yn newyddion da fod y gwasanaeth yn rhoi gwasanaeth da a gwerth am arian, mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod angen gwell integreiddio gyda'r Gwasanaeth Iechyd."

Yn ôl Peter Black, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd yr adroddiad yn achos "peth pryder".

"Rwyf wedi bod yn poeni am beth amser am y modd mae'n ymddangos bod y gwasanaeth ffôn yn gweithredu yn annibynnol o weddill y gwasanaeth iechyd.

"Mae'r adroddiad yn cadarnhau fy ofnau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi derbyn copi o'r adroddiad a'i bod yn ystyried ei gasgliadau ac argymhellion.



HEFYD
Arolwg iechyd: 'Methu targedau'
25 Ebr 08 |  Newyddion
Meddygon teulu yn rhedeg uned
16 Medi 08 |  Newyddion
Cytundeb: 'Dim gwerth arian'
16 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific