British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009, 10:34 GMT 11:34 UK
Llyn: Rhybudd am algae

Llyn Bala
Aed samplau o'r llyn brynhawn Gwener

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio bod algae gwyrdd-las a allai fod yn wenwynig yn Llyn Tegid ger Y Bala.

Mae'r algae yn datblygu'n naturiol ond mae 'na rybudd i bobol leol y gallai achosi salwch neu frech ar y croen.

Ar hyn o bryd mae'r asiantaeth yn rhoi gwybod i fudiadau a pherchnogion tir, gan gynnwys Gwersyll yr Urdd, Glanllyn.

Aed â samplau o'r llyn brynhawn Gwener cyn eu profi a'u dadansoddi.

Fe gadarnhaodd y profion fod algae gwyrddlas yn y llyn.

Ym mis Mehefin fe ddaeth rhybudd i ben yn achos un o lynnoedd Eryri.

Roedd yr asianataeth wedi dweud ym mis Mai na ddylai unrhyw un fynd dan y dŵr yn Llyn Padarn ger Llanberis.

Mae'r algâu gwyrddlas - neu anabena lled-droellog - yn digwydd yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, aberoedd ac yn y môr.

Gall fod yn doreithiog mewn dyfroedd cynnes, bas yn llygaid yr haul.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Llyn: Rhybudd am algae
31 Mai 09 |  Newyddion
Rhybudd: 'Cadwch draw o'r afon'
31 Awst 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific