British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 12 Medi 2009, 08:37 GMT 09:37 UK
Ambiwlans: 'Angen trefn newydd'

Ambiwlans
Llai na hanner yn cyrraedd achosion brys o fewn 8 munud

Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, wedi galw am gael gwared ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru a throsglwyddo'r gwaith i'r byrddau iechyd newydd.

Yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llandudno fe ddywedodd y byddai trosglwyddo cyfrifoldebau i'r Byrddau Iechyd Lleol newydd yn rhyddhau arian ar gyfer gwasanaethau llinell flaen fel bod modd ymateb yn gynt i argyfyngau.

Mae'r gwasanaeth wedi gwrthod gwneud sylw "gan fod hwn yn fater i Lywodraeth y Cynulliad".

Dywedodd yr AC: "Rwy'n credu ein bod wedi parhau â'r drefn bresennol yn ddigon hir ond mae'r ymateb i alwadau achosion brys yn annigonol.

"Fe fydd Byrddau Iechyd Lleol newydd drwy Gymru yn cynnig opsiwn arall credadwy am ddyfodol y gwasanaeth ambiwlans.

"Byddai'r ambiwlansys yn cael eu cydlynu ar lefel lawer mwy lleol a'r awdurdodau iechyd yn cydweithio'n well".

'Peryglu bywydau'

Ym mis Gorffennaf, dywedodd adroddiad pwyllgor archwilio'r cynulliad fod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn "peryglu bywydau".

Rpoedd llai na hanner y galwadau achosion brys yn cael eu hateb o fewn y targed o wyth munud, meddai'r pwyllgor.

Mae cadeirydd y pwyllgor, y Ceidwadwr Jonathan Morgan AC, wedi dweud bod oedi wrth symud cleifion i unedau brys yn peryglu bywydau.

Dywedodd y pwyllgor fod Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi arbed £17 miliwn ond bod hyn wedi effeithio ar staff llinell flaen.

Yn yr haf dywedodd cyn-bennaeth y gwasanaeth nad oedd y gwasanaeth "yn well" a'i fod "fwy na thebyg yn waeth" dair blynedd wedi iddo adael ei swydd.

Gadawodd Roger Thayne yn 2006 ddau fis ar ôl iddo ddechrau yn swydd prif weithredwr dros dro Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Ar y pryd dywedodd fod angen "chwyldro" yn y gwasanaeth.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Pwysau sylweddol' ar ysbyty
12 Ion 09 |  Newyddion
999: Methu'r targed unwaith eto
07 Ion 09 |  Newyddion
Problemau rhew i sawl ambiwlans
05 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific