British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Medi 2009, 05:57 GMT 06:57 UK
Gardd yn troi at gig organig

Gwrtheg duon yn yr Ardd Fotaneg: Llun  Arvid Parry Jones
Mae'r gwartheg duon yn rheoli tyfiant. Llun: Arvid Parry Jones

Mae Gardd Fotaneg Cymru am werthu cig organig gwartheg duon Cymreig a brid arbennig o oen sydd wedi eu magu ar y safle yn sir Gaerfyrddin.

Cafodd anifeiliaid eu rhoi ar y tir yn Llanarthne yn wreiddiol er mwyn rheoli tyfiant y gwair.

Ond nawr mae modd gwerthu cynnyrch cig eidion a chig oen yn uniongyrchol i ymwelwyr.

Dywedodd rheolwr y fferm, Tim Bevan, fod hwn yn gam synhwyrol gan ei fod o'n cynnig incwm newydd.

Pori

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yn rhan o'r Ardd Fotaneg ac mae'n gartre i 1,000 o blanhigion a choed.

Dywedodd Mr Bevan fod gwartheg a defaid wedi chwarae rhan bwysig ar y safle natur, sy'n 400 acer, drwy reoli'r lawntydd.

"Mae'n gamsyniad gan lawer bod ond angen gadael llonydd i warchodfa natur er mwyn iddo ffynnu.

"Y gwrthwyneb sy'n wir.

"Oni bai fod gwartheg yn pori byddai'r coed yn tyfu yma unwaith yn rhagor."

Dywedodd ei fod yn gam rhesymegol i ddefnyddio'r anifeiliaid i gynhyrchu cig organig.

Does yna ddim gwrtaith artiffisial na chemegau yn cael ei ddefnyddio ar y tir lle maen nhw'n pori yn ôl Mr Bevan.

Bydd tua 12 o wartheg y flwyddyn a rhwng 10 ac 20 o wyn y mis yn rhan o'r cynllun.

Eco-gyfeillgar

Bydd lladd-dy a chigydd lleol yn rhan o'r fentrer.

Dywedodd Mr Bevan mai dim ond ychydig filltiroedd o gludiant oedd ei angen, gan olygu fod y cynnyrch mor eco-gyfeillgar â phoisb.

Bydd y cig yn cael ei werthu yng Nghanolfan Ymwelwyr yr Ardd.

"Rydym yn gobeithio denu hyd at 50 o bobl i brynu ein cynnyrch yn gyson," ychwanegodd.



HEFYD
Gweinidog: 'Cefnogwch yr ardd'
22 Awst 07 |  Newyddion
Gwaredu planhigyn peryglus
21 Meh 07 |  Newyddion
Gardd Fotaneg: Talu dyled £1.9m
06 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific