British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Medi 2009, 16:38 GMT 17:38 UK
Facebook: Carchar am oes

Hayley Jones
Newidiodd Hayley Jones ei statws ar wefan Facebook cyn cael ei lladd

Mae dyn 31 oed yn euog o lofruddio ei bartner ar ôl iddi newid statws eu perthynas ar wefan gymdeithasol Facebook.

Yn Llys y Goron Caerdydd fe gafodd Brian Lewis o Dredegar Newydd, Sir Caerffili, ei garcharu am oes.

Fe fydd rhaid iddo dreulio o leia 14 blynedd yn y carchar.

Roedd wedi gwadu llofruddio Hayley Jones, 26 oed, mam eu pedwar plentyn, ym mis Mawrth 2007.

Y plant ddaeth o hyd iddi'n farw. Roedd hi wedi ei thrywanu a'i thagu.

Dywedodd y diffynnydd wrth y llys ei fod yn bwriadu "cyffwrdd ei sach gysgu â chyllell" ond bod "rhywbeth wedi mynd o'i le".

'Ddim gwneud iawn'

Ar ôl yr achos dywedodd mam Hayley, Sally Williams, 50 oed: "All y ddedfryd ddim gwneud iawn am golli merch hyfryd.

"Roedd hi'n fam oedd yn dwlu ar ei phedwar plentyn ac newydd ddechrau gwaith i gynnal ei theulu hi.

"Pan oedd hi'n cysgu'n braf roedd ymosodiad llwfr arni hi ... chaiff hi ddim cyfle i weld ei phlant yn tyfu."

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Roderick Evans wrth y diffynnydd: "Ni chawsoch eich pryfocio - y gwir yw eich bod yn rhwystredig ac yn ddig.

"Ni wnaeth hi unrhywbeth fyddai wedi sbarduno yr hyn ddigwyddodd."

Roedd y diffynnydd wedi llefen pan gafodd ei holi am ei fygythiadau yng Nghlwb Cymdeithasol Trephilip ar Fawrth 8, 2007.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn meddwl bod ei bartner yn siarad â dynion ar y we fe gyfaddefodd Mr Lewis iddo ddweud wrth ffrindiau: "Gobeithio ddim neu fe wna i ei lladd hi."

Dywedodd wrth y rheithgor: "Fe ddywedais i hynny oherwydd rhwystredigaeth."

Ariannol

Clywodd y rheithgor bod y cwpwl wedi bod gyda'i gilydd am 13 blynedd ac yn ystyried eu hunain yn ŵr a gwraig.

Ond oherwydd problemau ariannol wedi i'r diffynnydd gael ei ddiswyddo ar y rheilffyrdd yn 2007 fe ddechreuodd y sefyllfa suro.

Roedd y llys wedi clywed bod archwiliad post mortem yn dangos ei bod hi wedi cael ei thagu.

Dywedodd yr erlynydd Mark Evans QC fod yr anaf i'w frest yn arwyddocaol.

Ond nid yr anaf yma oedd yr ergyd farwol.



HEFYD
Facebook: Mab wedi canfod corff
03 Medi 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific