British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Medi 2009, 16:21 GMT 17:21 UK
Gwaith dur: Ailddechrau ffwrnais

Gweithfeydd Corus ym Mhort Talbot
Dywedodd Corus y byddai ail-ddechrau'r ffwrnais yn rhoi mwy o hyblygrwydd gweithredol i'r busnes

Mae cwmni dur Corus wedi dweud wrth staff eu bod am baratoi Ffwrnais Rhif 4 ym Mhort Talbot cyn ei hail-ddechrau.

Ym mis Awst fe ddywedodd y cwmni fod cynnydd wedi bod yn nifer archebion a'u bod yn ymateb i'r galw.

Dywedodd Corus y byddai ail-ddechrau'r ffwrnais yn rhoi mwy o "hyblygrwydd gweithredol" i'r busnes yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae cynhyrchu yn safle Corus yn Llanwern ger Casnewydd yn ail-ddechrau'r mis hwn ond ni fydd hyn yn newid y penderfyniad i ddiswyddo 528 o staff.

Roedd ffwrnais Port Talbot, un yn Scunthorpe ac un yr Iseldiroedd yn segur o fis Rhagfyr ymlaen.

Roedd y diffodd yn rhan o doriad o 30% mewn cynllunio cynhyrchu dros y chwe mis dilynol oherwydd llai o alw yn Ewrop.

Yn wreiddiol, roedd y diffodd wedi ei gynllunio ar gyfer dau fis ond fe gafodd hyn ei estyn wrth i'r wasgfa ariannol effeithio ar archebion.

Roedd Corus wedi rhoi'r bai ar y wasgfa ariannol fyd-eang am y toriadau.



HEFYD
Corus: Ailddechrau cynhyrchu
19 Awst 09 |  Newyddion
Corus: Diswyddo 2,500
26 Ion 09 |  Newyddion
Corus: Colli 145 swydd
06 Tach 08 |  Newyddion
Corus: 212 o swyddi i'w colli
25 Mai 07 |  Newyddion
Corus: Undeb am gael sicrwydd
08 Tach 08 |  Newyddion
Corus: 30% yn llai o ddur
07 Tach 08 |  Newyddion
Llai o gyflog: Na, medd gweithwyr
11 Rhag 08 |  Newyddion
Corus: 'Gostwng cyflogau o 10%'
11 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific