Mae cyfarwyddwr cyntaf Samariaid Cymru wedi cael ei benodi. Fe fydd Simon Hatch yn helpu'r elusen i leihau nifer yr hunanladdiadau a chodi ymwybyddiaeth am waith yr elusen. Llywodraeth y Cynulliad sy'n ariannu'r swydd. Mae gan Mr Hatch, gafodd ei fagu yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych, fwy na 10 mlynedd o brofiad elusennol a gwleidyddol. Fe gafodd y swydd ei chreu ar ôl strategaeth Llywodraeth y Cynulliad yn 2008 i daclo nifer sylweddol o hunanladdiadau yn ardal Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, fod y swydd yn rhan o gynllun ehangach i atal hunanladdiadau, cynllun fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. Allweddol "Y bwriad yw sefydlu nifer o gynlluniau yng Nghymru fydd yn cyfuno nifer o raglenni," meddai. "Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod gennym ni staff wedi eu hyfforddi all gynnig help pan mae angen ac mae'r swydd newydd yn mynd i chwarae rhan allweddol wrth gyfuno'r holl waith." Dywedodd Catherine Johnstone, Prif Weithredwr y Samariaid, y bydd y ffordd newydd yn caniatáu'r elusen i gyd-weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth y Cynulliad i leihau nifer yr achosion o hunanladdiadau yng Nghymru "mewn cyfnodau anodd". "Mae profiad gwych Simon, yn y sector gyhoeddus a gwirfoddol, yn amhrisiadwy....gweithio ar draws yr holl ganghennau, adeiladu ar ein hanes hir o gefnogi'r rhai sy'n fregus," meddai. Ym mis Tachwedd 2008 fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi strategaeth £10 miliwn i roi hyfforddiant i athrawon, meddygon, ymgynghorwyr swyddi a heddlu yn cael eu hyfforddi i adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl mewn ymgais i leihau'r nifer o achosion. Cafodd llinell ffôn 24 awr ei lansio hefyd ar ôl i dros 20 o bobl ifanc gyflawni hunanladdiad yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr dros y ddwy flynedd. Fe fydd Mr Hatch yn cychwyn ar ei waith ar Hydref 12.
|