British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Medi 2009, 06:32 GMT 07:32 UK
Agor canolfan cyngor £15m

Swyddfeydd newydd Cyngor Ceredigion yn Aberystwyth
Y swyddfeydd newydd sydd wedi eu lleoli ym Mharc y Llyn

Cafodd swyddfeydd cyngor newydd gwerth £15 miliwn a fydd yn gartref i dros 400 o weithwyr eu hagor yn Aberystwyth.

Bydd nifer o adrannau Cyngor Sir Ceredigion yn cartrefu o dan yr un to yng Nghanolfan Rheidol.

Cyn hyn mae'r adrannau wedi bod mewn gwahanol lefydd yn y dref cyn symud i'r ganolfan ym Mharc y Llyn.

Bydd technoleg amgen yn yr adeilad sydd wedi derbyn grant o £313,000.

Bydd 'na baneli solar a thyrbin gwynt bach a fydd yn rhannol gyfrifol am bwer yr adeilad.

Ym mis Hydref bydd swyddfeydd newydd Llywodraeth y Cynulliad yn agor drws nesaf.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod yr adeilad yn cynnig "gwasanaeth mwy effeithiol a bod modd cael mynediad at wasanaethau yn well".

Mae'r gwaith adeiladu wedi bod wrthi am 18 mis.

Ychwanegodd y cyngor bod y cynllun wedi cael ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb.

Yr adrannau fydd yn yr adeilad newydd fydd, cyllid, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a chymunedau, amgylchedd a thai a'r adran eiddo priffyrdd.

Cafodd Canolfan Rheidol ei agor gan gadeirydd y cyngor J Ivor Williams.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific