Y gobaith yw cyflymu'r broses o ddatblygu darganfyddiadau
|
Bydd swyddogion ymchwil ac arbenigwyr meddygol yn cael eu lleoli mewn canolfan rhagoriaeth newydd yng Nghaerdydd. Prif nod y ganolfan yw cyflymu'r broses o ddatblygu darganfyddiadau meddygol yn therapïau ar gyfer gwahanol fathau o ganser. Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i ganser y frest, lewcemia, canser y coluddyn a chanser wrolegol. Dyma'r chweched ganolfan o'i fath i gael ei agor gan elusen Cancer Research UK - a'r cyntaf yng Nghymru. Bydd y ganolfan newydd yn cael ei leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas. Dywedodd yr Athro Alan Clarke, cyfarwyddwr y ganolfan, y byddai'r datblygiad hefyd yn gwella'r berthynas a dealltwriaeth rhwng staff meddygol a chleifion. Gobaith "Rydym wedi gwneud lot o waith yn dod i ddeall sut mae canser, fel canser y coluddyn yn datblygu ac rydym yn dechrau dod i ddeall y genetig sy'n nghlwm gyda'r clefyd. "Fe fydd y ganolfan yn cyflymu'r broses o sicrhau fod y gwaith ymchwil yn arwain at well ddiagnosis a thriniaeth." Mae'r ganolfan yn cynnig gobaith i bobl fel Montserrat Lunati, 56, o Gyncoed, Caerdydd sy'n diodde o ganser y coluddyn. Roedd hi'n rhan o brawf clinigol yn Ysbyty Felindre, Caerdydd. Bydd canlyniadau ei phrawf yn cael eu defnyddio fel rhan o waith ymchwil y ganolfan newydd. Bwriad y prawf oedd gweld a oedd ychwanegu cyffur o'r enw Avastin i gemotherapi yn gwneud y driniaeth yn fwy effeithiol "Ar ôl llawdriniaeth ym mis Mehefin y llynedd fe gefais wybod am y profion oedd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. "Ro 'ni'n hapus i gymryd rhan. "Roedd chwe mis o gemotherapi yn anodd iawn ond dwi wedi bod yn teimlo'n dda yn ddiweddar," meddai Dr Lunati, darlithydd hyn mewn astudiaethau Sbaeneg, ym Mhrifysgol Caerdydd. "Rwy'n falch fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu i waith ymchwil a all fod o fudd i gleifion eraill fel fi." Mae gan yr elusen Cancer Reasearch UK ganolfanau eraill yn Lerpwl, Birmingham, Belfast, Southampton a Newcastle.
|