British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Medi 2009, 15:10 GMT 16:10 UK
A470: Galw am welliannau

Tirlithriad ar ffordd A470
Digwyddodd y tirlithriad ar ffordd A470 ger Bwlch Oerddrws

Mae 'na alw am wella rhan o'r A470 wedi tirlithriadau.

Fe gafodd cerbydau eu dargyfeirio 18 milltir rhwng Mallwyd a Thabor nos Fawrth cyn i'r ffordd ailagor ddydd Sul.

Mae'r Cynghorydd John Pughe Roberts wedi dweud bod angen gwelliannau er mwyn atal hynny rhag digwydd eto.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn atal mwy o oedi ar y ffordd.

Roedd y tirlithriadau ar ran o'r ffordd ger Bwlch Oerddrws sy'n arwain at Ddinas Mawddwy.

Mae angen system monitro'n gyflym rhag ofn i hyn ddigwydd eto a bod damwain farwol
Y Cynghorydd John Pughe Roberts

"Mae hyn wedi digwydd ddwywaith a dim ond trwy lwc does neb wedi cael ei anafu," meddai'r cynghorydd.

"Yn sicr, mae angen system monitro'n gyflym rhag ofn i hyn ddigwydd eto a bod damwain farwol."

Yn yr hirdymor, meddai, fe fyddai angen gwario "cryn dipyn o arian" i wella'r system bresennol.

'Cyfyngiad cyflymdra'

Dywedodd fod yr ardal lle oedd y tirlithriad yn "anghofiedig" oherwydd ei bod ar y ffin rhwng y gogledd a'r canolbarth.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod angen pum ffrwydrad er mwyn clirio'r baw oedd wedi dod yn rhydd.

"Fe fydd cyfyngiad cyflymdra o 40mya tra bydd gwaith atgyweirio'n digwydd.

"Mae'r rhan hon o'r ffordd ar fynydd uchel a gall tirlithriadau ddigwydd yma weithiau."

Roedd y ffyrdd yn cael eu harchwilio'n rheolaidd, meddai, a phibell wedi ei gosod ar y ffordd er mwyn cael gwared ar ddŵr o'r wyneb.

"Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni er mwyn lleihau'r tebygrwydd y bydd hyn yn digwydd eto.

"Rydyn ni hefyd yn bwriadu adolygu pa mor aml a thrylwyr yw ein harchwiliadau."



HEFYD
Tirlithriad: Ail agor yr A470
06 Medi 09 |  Newyddion
Tirlithriad yn cau'r A470
02 Medi 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific