Cafodd dyn ei garcharu ac mae dynes wedi derbyn dirwy ar ôl cyfadde i ddwyn dillad oedd wedi cael eu gadael y tu allan i siop elusen. Roedd lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos Austin Morgan, 39 oed, a Sharon Williams, 30 oed, y ddau o Gyffordd Llandudno yn mynd drwy'r dillad oedd i fod ar gyfer siop elusen Hosbis Dewi Sant. Dywedodd eu cyfreithiwr wrth y llys yn Llandudno ddydd Sadwrn bod hwn yn drosedd "drist iawn". Cafodd Morgan ei garcharu am bum niwrnod ac fe gafodd Williams ei gorfodi i dalu £110 o ddirwy a chostau. Clywodd y llys bod gan y ddau gyfres o droseddau blaenorol. Fe fydd dedfryd Morgan yn cyd-redeg gydag 11 niwrnod sydd ganddo yn weddill yn y carchar am drosedd flaenorol o ymosod. Fe dderbyniwyd bod dirwy Williams wedi ei dalu gan ei bod wedi treulio dwy noson mewn cell.
|