British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Medi 2009, 16:18 GMT 17:18 UK
Cyfieithu: Beirniadu comisiwn

Nick Bourne
Mae Mr Bourne wedi ysgrifennu at Lywydd y Cynulliad

Mae sawl plaid wedi beirniadu Comisiwn y Cynulliad am benderfynu peidio â chyfieithu areithiau Saesneg i'r Gymraeg yn y Senedd.

Eisoes mae'r Bwrdd Iaith a Chymdeithas yr Iaith wedi dweud eu bod yn bwriadu gofyn am gyngor cyfreithiol.

Roedd y Comisiwn wedi penderfynu peidio â chyfieithu areithiau o'r Saesneg i'r Gymraeg yng nghyfarfodydd llawn y cynulliad - ar gyfer Y Cofnod, hynny yw Hansard Cymru.

Maen nhw'n dweud y bydd hyn yn arbed £250,000.

Ond mae Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, wedi ysgrifennu at Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad.

'Synnu'

Mae'n galw ar Gomisiwn y Cynulliad i ailystyried eu penderfyniad ac yn dweud y dylai cyfieithiadau o'r areithiau Saesneg fod yn Y Cofnod.

"Roeddwn i'n synnu at y penderfyniad ac rwy'n poeni'n fawr," meddai Mr Bourne.

"Mae'r penderfyniad yn anfon y neges anghywir ..."

A dywedodd yr AC Chris Franks, aelod o'r Comisiwn, nos Iau ei fod o wedi mynegi pryderon am y cynlluniau ym mis Gorffennaf pan wnaed y penderfyniad.

Yn ôl Mr Franks ni chafodd ei bryderon eu cynnwys yng nhofnodion y cyfarfod gafodd eu cyhoeddi'n ddiweddarach.

Yn y cyfamser, mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Faterion Cymreig, Cheryl Gillan, wedi ysgrifennu ar Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain.

Rhybuddio

Mae hi wedi rhybuddio fod penderfyniad y comisiwn yn tanseilio gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Jenny Randerson AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod y penderfyniad yn "gam yn ôl" o ran ymroddiad y cynulliad i'r iaith Gymraeg.

"Mae'r ymateb i benderfyniad y comisiwn wedi bod yn gryf a dwi'n meddwl y dylai pobl Cymru gael yr hawl i ddarllen yn y ddwy iaith yr hyn y mae Aelodau Cynulliad yn ei ddweud ..."



HEFYD
Iaith: Galw am gyngor cyfreithiol
03 Medi 09 |  Newyddion
Iaith: Cyngor cyfreithiol
02 Medi 09 |  Newyddion
Cynulliad: 'Newid rheol iaith'
06 Awst 09 |  Newyddion
Iaith y Cofnod: 'Statws is'
07 Awst 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific