British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 6 Medi 2009, 17:07 GMT 18:07 UK
Alzheimer: Hwb i'r broses?

Julie Williams
Mae'r Athro Julie Williams yn gweithio yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd

Mae gwyddonydd o Gymru wedi canfod genynnau Alzheimer newydd.

Gallai darganfyddiad Yr Athro Julie Williams o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd fod yn hwb i'r broses o ganfod triniaethau posib.

Ei hymchwil hi yw'r un mwya sy'n edrych yn fanwl ar y cysylltiad rhwng y cyflwr â genynnau - roedd 16,000 o bobl yn rhan o'r ymchwil.

Mae'r gwaith ymchwil, sy'n cael ei gyhoeddi yn Nature Genetics, yn nodi bod dau enyn newydd yn gysylltiedig â'r clefyd.

Symud moleciwlau

Cyn hyn dim ond genyn APOE4 oedd yn cael ei gysylltu â'r clefyd ond erbyn hyn mae CLU a PICALM yn arwyddocaol.

"Mae darganfod y ddau enyn yn taflu golau ar y ffaith fod mwy nag un rheswm am y clefyd," meddai'r Athro Williams sy'n athro geneteg niwroseicolegol.

"Math o brotin sydd, fel arfer, yn gwarchod yr ymennydd yw CLU a gall amrywiaethau yn y genyn yma amharu ar y system amddiffyn.

"Mae PICALM yn gysylltydd rhwng celloedd yr ymennydd sy'n symud moleciwlau i a thu mewn i gelloedd nerfol sy'n creu atgofion a gweithredoedd eraill yn yr ymennydd."

Y Wellcome Trust, Cyngor Ymchwil Meddygol, Ymddiriedolaeth Ymchwil Alzheimer a Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol arainnodd yr ymchwil.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, fod yr ymchwil yn "bluen yng nghap" Cymru fel canolfan o ragoriaeth fyd-eang.

"Mae'r canfyddiad allweddol yn y frwydr i ddeall a datblygu triniaeth yn newyddion da i'r 37,000 o bobl yng Nghymru (a'u gofalwyr) sy'n diodde o Alzheimer neu ffyrdd eraill o ddementia.

"Fe fydd ymchwil o'r fath yn arwain at driniaethau ac efallai ryw ddydd y byddwn yn gallu canfod gwellhad llwyr."

Ehangu

Dywedodd yr athro fod yr ymchwil yn cynnig gwybodaeth allweddol am ganfod triniaethau.

"Mae hefyd yn dangos bod modd canfod genynnau eraill yn yr un modd," meddai.

"Rydym yn cynllunio eisoes i ehangu'r arolwg i 60,000 o bobl y flwyddyn nesaf.

"Mae'n bwysig cydnabod cyfraniad nifer o bobl o Gymru sydd wedi chware rhan dros y blynyddoedd i'r ymchwil."

Fe ychwanegodd Syr Leszek Borysiewicz, o'r Cyngor Ymchwil Meddygol bod y gwaith ymchwil yn "gam anferth at adnabod y clefyd yn gynt".

"Mae ariannu gwaith ymchwil ar glefydau niwroseicolegol yn flaenoriaeth ..."

Yn ogystal â gwyddonwyr o Gymru bu gwyddonwyr o Lundain, Caergrawnt, Nottingham, Southampton, Manceinion, Rhydychen, Bryste a Belfast yn cyd-weithio gyda sefydliadau yn Iwerddon, Yr Almaen, Gwlad Belg, Groeg ac America.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific