British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Medi 2009, 15:06 GMT 16:06 UK
Ysgol werdd: Plant yn dathlu

Roedd yn ddiwrnod arbennig i'r 250 o ddisgyblion

Mae disgyblion ysgol ym Mangor yn cael eu dysgu mewn adeilad newydd sbon, ysgol werdd.

Dydd Mercher agorodd adeilad newydd Ysgol Cae Top yn swyddogol, 40 mlynedd ers i bobl ddechrau ymgyrchu.

Mae'r ysgol ar safle newydd ger Ysgol Uwchradd Friars yn ardal Eithinog y ddinas.

Roedd yr hen adeilad yn dyddio'n ôl i 1871.

Mae 'na 250 o ddisgyblion yn yr ysgol a 27% o'r plant o wahanol wledydd a chrefyddau.

'Ymhob tywydd'

Dywedodd Dewi Parry, Cadeirydd y Gymdeithas Rheini ac Athrawon, ei fod wedi aros am adeilad newydd ers blynyddoedd.

Ysgol Cae Top, Bangor
Adeilad oes Fictoria a chabanau dros dro oedd yr hen ysgol

"Allwn ni ddim coelio ein bod ni wedi bod yn yr hen ysgol am amser mor hir.

"Roedd yr adnoddau mor sâl. Roedd rhaid i'r plant fynd i'r toiled ar draws yr iard ym mhob tywydd.

"I gael popeth o dan yr un to mae'n anhygoel. Mae'r iard newydd tua'r un maint â'r hen ysgol.

"Allwn ni ddim coelio ein bod ni mor lwcus."

'Paneli solar'

Mae'r datblygiad wedi costio mwy na £4 miliwn.

Yn yr ysgol mae 'na saith ystafell ddosbarth, adnoddau modern, ystafell a chyfarpar technoleg gwybodaeth, ystafell gerdd, iard chwarae, meithrinfa ac ystafell clybiau cymunedol yn ogystal â maes parcio pwrpasol.

Plant Ysgol Cae Top
Mae 'na adnoddau modern newydd i'r disgyblion yn yr ysgol

"Mae 'na baneli solar, dŵr glaw yn cael eu defnyddio yn y toiledau, gwres yn dod o ganol y ddaear ac mae 'na felin wynt, " meddai'r prifathro, Rhys Hughes.

"Ac mae'r cyfan wedi ei gysylltu â'r offer technoleg gwybodaeth er mwyn i'r plant ddefnyddio'r wybodaeth yn eu gwaith pob dydd.

"Mae hwn yn ddiwrnod arbennig ac rydan ni'n edrych mlaen at ddyfodol llwyddiannus."

Ffwngws

Cafodd yr adeilad ei godi gyda chymorth Grant Gwella Adeiladau Ysgolion Llywodraeth y Cynulliad.

Ond roedd cadwraethwyr wedi codi pryderon am fod ffwngws prin yn tyfu ar y safle.

Fe gafodd safle'r ysgol ei addasu er mwyn gwarchod y cynefin.

"Er gwaetha pryderon ar y cychwyn, mae'r gymuned gyfan yn edrych ymlaen at yr adeilad newydd," meddai'r Cynghorydd Dai Rees Jones.

"Dwi'n edrych mlaen at weld y plant a chydweithio gyda Chyfeillion Eithinog a Chae Briwas i adfer y tir ar gyfer y cenedlaethau i ddod."



HEFYD
Ffwngws: Caniatād i godi ysgol
06 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific