British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Medi 2009, 06:22 GMT 07:22 UK
Caer fynyddig yn 3,000 mlwydd oed

Moel Famau
Mae archeolegwyr eisoes wedi cynnal profion ar Foel Famau, hefyd ym Mryniau Clwyd

Yn ôl archeolegwyr, fe allai caer ar Fryniau Clwyd fod bron yn 3,000 o flynyddoedd oed.

Ar ôl cynnal profion ym Moel-y-gaer mae arbenigwyr yn credu bod y gaer yn hŷn nag yr oedden nhw'n tybio.

Mae profion ar fetelau a cherrig mynedfa'r gaer yn awgrymu y gallai ddyddio nôl i'r Oes Efydd (2,300 CC hyd at 700 CC).

Yn wreiddiol, y gred oedd bod y gaer wedi ei sefydlu yn yr Oes Haearn (700 CC i 70 OC).

Fe fydd profion pellach yn cael eu cynnal.

Menter ar y cyd yw'r profion rhwng Prifysgol Bangor a Chyngor Sir Ddinbych.

"Rydym ni wedi dod o gyd i gyflenwad mawr o olosg a gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi i roi dyddiad mwy manwl pryd y cafodd mynedfa'r gaer ei chodi," meddai'r Athro Raimund Karl o Ysgol Archeolegol a Hanes Cymru Prifysgol Bangor.



HEFYD
Pobl Oes Efydd yn galaru blodau
10 Chwef 06 |  Newyddion
Darganfod caer Rufeinig bwysig
23 Ebr 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific