British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 30 Awst 2009, 14:39 GMT 15:39 UK
Mardi Gras: Mwy nag erioed

Mardi Gras
Rhai o'r bobl ar gaeau Cooper yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn

Mae tua 50,000 o bobl wedi bod yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn a dydd Sul ar gyfer Gŵyl Mardi Gras.

Dyma'r dyrfa fwyaf yn hanes yr ŵyl, medd y trefnwyr.

Dyma'r ddegfed tro i'r digwyddiad gael ei gynnal yn y ddinas ac mae wedi tyfu a thyfu.

Bu'n rhaid canslo'r achlysur y llynedd oherwydd y tywydd gwael, felly dywed y trefnwyr ei fod yn 'rhyddhad' bod y tywydd yn well y penwythnos hwn.

Mae'r Mardi Gras ei hun yn cael ei gynnal ar gaeau Cooper yng nghanol y ddinas.

Mardi Gras
Dyma'r ddegfed tro i'r Mardi Gras gael ei gynnal yng Nghaerdydd

Yn y Mardi Gras cyntaf yn 1999 roedd 'na 6,000 o fynychwyr.

Dywedodd y trefnwyr ei fod yn un o'r digwyddiadau mwya am ddim i bobl hoyw ym Mhrydain, ond bod yr ŵyl yn agored i bawb, a'u bod yn ceisio hybu goddefgarwch yn y gymuned.

Ychwanegodd Carl Turner, un o'r trefnwyr: "Mae wedi bod yn wych i weld mwy o bobl nag eriod yn ymuno â ni i ddathlu y cymunedau amrywiol yr ydym oll yn byw ac yn gweithio ynddynt".



HEFYD
Esgob yn colli achos cyflogaeth
18 Gorff 07 |  Newyddion
Cais Archesgob am oddefgarwch
08 Ebr 07 |  Newyddion
Cyfle i drafod bwlio homoffobig
21 Tach 06 |  Newyddion
Trafod bywyd hoyw - yn Gymraeg
05 Awst 06 |  Newyddion
'Llai parod i dderbyn hoywon'
25 Meh 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific