British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 25 Awst 2009, 12:17 GMT 13:17 UK
Diwrnod y Parciau Cenedlaethol

Parc Cenedlaethol Eryri
Eryri yw un o'r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dydd Mawrth yn ddiwrnod y Parciau Cenedlaethol.

Cafodd y Parciau Cenedlaethol ym Mhrydain eu sefydlu yn 1949 o dan ddeddf seneddol.

Yng Nghymru mae 'na dri parcac mae 20% o dir Cymru yn dod o fewn eu ffiniau.

Cafodd Parc Cenedlaethol Eryri, ei sefydlu yn 1951 cyn Parc Arfordir Penfro yn 1952 ac yna yn 1957, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gwarchod harddwch

Diben y parciau yw gwarchod a gwella harddwch naturiol cefn gwlad ac annog hamdden awyr agored.

Mae'r parciau yn denu canoedd o filoedd o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn, ac yn cyflogi dros 300 o weithwyr llawn amser.

PARCIAU CENEDLAETHOL PRYDAIN
Peak District (1951)
Ardal y Llynnoedd (1951)
Eryri (1951)
Dartmoor (1951)
Arfordir Penfro (1952)
Rhosydd Gogledd Efrog (1952)
Yorkshire Dales (1954)
Exmoor (1954)
Northumberland (1956)
Bannau Brycheiniog (1957)
Llynnoedd Norfolk a Suffolk (1988)
Loch Lomond a'r Trossachs (2002)
Cairngorms (2003)
New Forrest (2005)

Fe gafodd y parciau eu creu i amddiffyn tiroedd prydferthaf Cymru - ac mae cadwraeth hefyd yn rhan bwysig o'u gwaith.

Ar hyn o bryd, er enghraifft, ym Mharc Cenedlaethol Eryri un o'r prif dasgau yw cael gwared ar y rhododendron sy'n bla yno.

Dyna sy'n flaenoriaeth yng ngwaith Rhys Owen, pennaeth cadwraeth ac amaethyddiaeth Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae'n ceisio difa'r rhododendron yn Nant Gwynant gan nad yw'n blanhigyn brodorol ac yn llwyn sy'n cysgodi pob dim o'i amgylch.

"Mae'n licio'r hinsawdd a'r llechweddau sydd ganddon ni yng Nghymru ac yn ffynnu, ond mae'n lwyn sy'n atal popeth arall rhag tyfu oddi tano.

"Mae 'na ymchwili ganddo ni fel awdurdod ac mae'r gost o'i waredu yn y parc tua £9 miliwn.

"Mae 'na sawl proses o osod chwynladdwr yn y planhigyn; torri a llosgi a chwistrellu'r planhigyn."

Diogelu

Eglurodd bod y parc yn gyfrifol am sawl peth.

Prif bwrpas strategol y parc ydi i amddiffyn a datblygu nodweddion arbennig sy'n nodweddiadol o'r tirwedd, y bioamrywiaeth, adeiladau rhestredig a cheisio datblygu'r economi a chynnal y boblogaeth sy'n byw yma.

Un o brif dasgau Geraint Jones, sy'n swyddog cadwraeth a ffermio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yw cydweithio gydag amaethyddiaeth a rhoi cymorth i berchnogion tir yn yr ardal, er mwyn diogelu ac ehangu ar gyfer y dyfodol.

Ac yn ddiweddar fe werthfawrogwyd y gwaith hwnnw gan Gymdeithas Lywodraeth Leol Cymru drwy roi gwobr rhagoriaeth i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

"Mae'r ddeddfwriaeth a ddaeth a ni i fodolaeth yn dweud yn glir mai ein gwaith yw gwarchod prydferthwch yr ardal, helpu pobl i fwynhau'r prydferthwch a sicrhau fod trigolion lleol yn gallu manteisio sy'n deillio o hynny.

"Mae mwyfrif y tir yn cael ei amaethu yn ddwys ac mae'n golygu ein bod yn gweithio tipyn bach yn wahanol, cynnig cymorth mewn gwahanol ffyrdd i berchnogion fferm a cheisio diogelu'r adnodd a'i ehangu.

"Roedd y pwyslais yn y gorffennol ar gael cymaint o ymwelwyr â phosib i mewn i'r ardaloedd, ond erbyn hyn rydym dipyn mwy gofalus wrth eu denu yma."



HEFYD
Pryder am ddyfodol parc gwledig
27 Ion 09 |  Newyddion
Parc: Pennaeth yn gadael
02 Rhag 08 |  Newyddion
Barn enwogion am y parciau
30 Meh 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific