British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 25 Awst 2009, 06:58 GMT 07:58 UK
Cynlluniau adfywio tre glan môr

Llun cyfrifiadur o sut all Bae Colwyn edrych wedi'r buddsoddiad
Caiff y cyhoedd gyfle i leisio barn ar y cynlluniau

Mae'r cynlluniau ar gyfer adfywio Bae Colwyn wedi cael eu harddangos.

Mae rhaglen Bywyd y Bae gan Gyngor Conwy yn cynnwys amddiffynfeydd arfordirol, canolfan siopau ac adleoli swyddfeydd y cyngor i ganol y dref.

Fe wnaeth Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi £20 miliwn tuag at ardaloedd sy'n cynnwys Bae Colwyn a'r Rhyl yn Sir Ddinbych.

Gall y cyhoedd weld y cynlluniau sydd ar gael yn Llyfrgell Bae Colwyn.

"Rydym yn credu bod y cynlluniau yma yn mynd i fod yn hwb ar gyfer buddsoddiad a gwelliant," meddai datganiad gan Cyngor Sir Conwy.

"Mae'n hanfodol bod Bae Colwyn yn cael yr elw mwya posib o dderbyn statws adfywio strategol," meddai Bethan Jones, dirprwy brif weithredwr.

"Mae'r ddogfen yn cynnwys ein blaenoriaethau a fydd yn rhoi canllawiau i ni."

Fe fyddai'r ganolfan siopa rhagoriaeth yn cael ei ganoli ym Mharc Eirias gan adeiladu ar y penderfyniad gan dîm rygbi Gogledd Cymru i chwarae yno.

Caiff swyddfeydd presennol y cyngor eu haddasu yn westy ar ôl i'r cyngor gael swyddfeydd newydd.

Y gobaith ydi y bydd y cais yn rhoi hwb i'r economi leol.

Mae'r cyngor eisiau ymateb y cyhoedd.

Gellir cael copïau o'r ddogfen o Lyfrgell Bae Colwyn neu ar y we drwy glicio yma



HEFYD
Hwb o Ł38m i adfywio ardaloedd
08 Mai 09 |  Newyddion
Ailddatblygu tref: Lleisio barn
13 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific