British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009, 08:23 GMT 09:23 UK
Angladd breifat i'r Archdderwydd

Dic Jones
Enillodd Dic Jones y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1966

Cafodd angladd Dic Jones, Archdderwydd Cymru, ei gynnal ddydd Sadwrn.

Bu farw Dic Yr Hendre yn 75 oed ddydd Mawrth ar ôl gwaeledd.

Roedd yr angladd yng Nghapel Blaenannerch ger Aberteifi yn gwbl breifat i'r teulu yn unig.

Ond fe gynhelir Oedfa Goffa yng Nghapel Tabernacl, Aberteifi ddydd Sadwrn Medi 5 am 2 o'r gloch.

Cafodd ei eni yn Nhre'r-ddôl yng Ngheredigion ond ar ôl cymryd awenau fferm Yr Hendre ym Mlaenannerch fel Dic Yr Hendre y cafodd ei adnabod.

Roedd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd ar bum achlysur a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966.

Roedd byd amaeth yn ei ysbrydoli ac mae ei awdl am Y Cynhaeaf yn cael ei chydnabod fel un o awdlau gorau'r 20fed Ganrif.

Roedd yn Archdderwydd yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch 2008, ond fe wnaeth salwch ei atal rhag bod yn bresennol yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn Y Bala eleni.

Mae'n gadael gwraig, Siân, a phump o blant, Dafydd, Delyth Wyn, Rhian Medi, Brychan Llŷr a Trystan.

Bu farw un, Esyllt, yn blentyn ifanc iawn.



HEFYD
Archdderwydd Cymru wedi marw
18 Awst 09 |  Newyddion
Golwg yn ôl: Dic Jones
18 Awst 09 |  Newyddion
Teyrngedau i Dic Jones
24 Awst 09 |  Newyddion
Cyhoeddi Prifwyl 2009
30 Meh 08 |  Newyddion
Caerdydd yn 'Feca o dalent'
04 Awst 08 |  Newyddion
Dic yw'r Archdderwydd
09 Awst 07 |  Newyddion
Gwisg newydd i'r Archdderwydd
07 Awst 08 |  Newyddion
Prifardd a'i fab yn codi pebyll
16 Mai 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific