British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 21 Awst 2009, 11:33 GMT 12:33 UK
Hwb o £3m i ffatri geir

Calsonic
Buddsoddi: Diogelu 237 o swyddi

Fe fydd £3 miliwn ar gael ar gyfer cynllunio cynnyrch mewn ffatri gydrannau ceir yn Felinfoel, Llanelli, sy'n bwriadu ehangu ar gost o £11.4m

Llywodraeth y Cynulliad sy'n cyfrannu £3.2m at ffatri Calsonic.

Mae'r ffatri'n cynhyrchu systemau aerdymheru ar gyfer ceir.

Fe fydd 237 o swyddi'n cael eu diogelu a 37 o rai newydd yn cael eu creu.

Ar hyn o bryd mae 400 yn gweithio yn y ffatri.

Dywedodd y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones: "Mae Calsonic wedi bod yn gyflogwr pwysig yn yr ardal ers blynyddoedd ac mae Llywodraeth y Cynulliad a'r rheolwyr wedi cydweithio ar brosiectau buddsoddi o'r blaen.

'Arwyddocaol'

"O gofio'r hinsawdd economaidd mae'r buddsoddi diweddara'n arwyddocaol ac fe fydd cyflwyno cynnyrch y genhedlaeth nesa'n bwysig o ran dyfodol y ffatri."

Mae rheolwr Calsonic, Jonathan Williams, wedi dweud bod cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad yn hollbwysig.

"Heb os, mae'n adlewyrchu gwaith caled y gweithwyr ers blynyddoedd ... ac yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd fod Calsonic newydd ennill cytundeb â Jaguar Land Rover cyn cynhyrchu dyfeisiadau ar gyfer Range Rover.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ffatri geir yn diswyddo 60
27 Hyd 08 |  Newyddion
Pleidlais ffatri geir: Derbyn newid
02 Rhag 05 |  Newyddion
Cyflenwyr: Cyfarfod argyfwng
14 Ebr 05 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific