British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Awst 2009, 07:25 GMT 08:25 UK
Llusernau yn 'difrodi cnydau'

Mae llusernau papur sy'n cael eu rhyddhau i'r awyr yn difrodi cnydau a thir amaethyddol, meddai ffermwyr yn y gogledd.

Dywedodd undeb NFU Cymru fod aelodau yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi gweld mwy o lusernau yn glanio ar eu tir.

Fel arfer, mae'r llusernau'n arwydd o obaith a dymuniadau gorau ac yn boblogaidd iawn mewn partïon preifat a gwyliau.

Yn ôl yr undeb, mae'r fflam a'r ffrâm fetel yn gallu achosi difrod.

Dywedodd yr undeb fod y llusernau yn gallu hedfan am hyd at 20 munud.

Anafu anifeiliaid

Maen nhw'n gallu cyrraedd uchder o tua milltir ac yn anodd iawn eu dilyn.

Dywedodd llywydd Sir Clwyd, Richard Tomlinson, bod modd eu prynu am £2.40.

"Maen nhw'n gallu cael effaith difrifol iawn ar gnydau ac ar dir fferm.

"Nid yn unig y fflam fechan y tu mewn sy'n cael effaith ond gall y ffrâm metel greu difrod hefyd.

"Gall ddifrodi peiriannau neu gael eu malu a'u cymysgu gyda bwyd anifeiliaid a chreu anafiadau difrifol iawn."

Mae'r undeb yn bwriadu ysgrifennu at Defra oherwydd eu pryderon.

Mae'r undeb wedi bod yn ymgyrchu i leihau nifer o falŵns heliwm sy'n cael eu rhyddhau.

"Byddwn yn annog unrhyw un, o unigolion i drefnwyr partïon, i feddwl ddwywaith am y peryglon wrth ryddhau'r llusernau."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific