British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 19 Awst 2009, 11:48 GMT 12:48 UK
Amlosgfa: Cais wedi ei dynnu nl

Trigolion lleol yn protestio
Roedd trigolion lleol yn dadlau y byddai'r safle yn difetha harddwch cefn gwlad

Mae cais cynllunio ar gyfer amlosgfa ddadleuol ger Rhuallt, Sir Ddinbych, wedi eu dynnu nôl.

Roedd y cwmni, Mercia Crematoria o Swydd Rhydychen, wedi gwneud cais i adeiladu'r amlosgfa bedair erw ger yr A55, yn agos at Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Bu tua 30 o drigolion lleol yn protestio fis Chwefror yn erbyn y datblygiad, gan ddweud y byddai'r safle yn difetha harddwch cefn gwlad.

Roedd adran gynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi codi pryderon am "addasrwydd y safle yng nghefn gwlad".

Roedd Mercia Crematoria wedi dweud y byddai'r amlosgfa yn delio â hyd at 1,200 o wasanaethau'r flwyddyn - tua phedwar neu bump y diwrnod - a byddai sgriniau ar dair ochr yn lleihau'r effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos.

Gwasanaethu ardaloedd

Dywedodd y cwmni bod angen yr amlosgfa i wasanaethu ardaloedd Y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Dinbych a Rhuthun, a bod cyfarwyddwyr gwasanaethau angladdol lleol yn gefnogol.

Yn ôl llefarydd ar ran y sir roedd y cais wedi ei dynnu yn ôl oherwydd y gwrthwynebiad lleol a phryderon yr adran gynllunio.



HEFYD
Protestwyr yn erbyn amlosgfa
04 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific