Roedd Dic Jones yn 75 oed
|
Bu farw Archdderwydd Cymru, Dic yr Hendre, Dic Jones. Roedd Dic Jones yn 75 oed a bu farw ddydd Mawrth ar ôl gwaeledd. Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala eleni fyddai wedi bod yr ail Eisteddfod iddo fel Archdderwydd ond nid oedd yn bresennol oherwydd salwch. Cafodd ei urddo i'r swydd yn seremoni gyhoeddi Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau yn 2008. Dywedodd y Prifardd John Gwilym Jones, Cofiadur yr Orsedd, mai fe oedd "y cynganeddwr mwy rhugl yr wyf i erioed wedi cwrdd ag e. "I mi, mae e fwy neu lai yn bennaf gyfrifol am y dadeni sy wedi bod yng Nghymru ar y canu caeth." Mae'r Prifardd Idris Reynolds wedi dweud mai fe luniodd ddwy o awdlau mwyaf yr iaith Gymraeg a bod ei gyfraniad wedi ymestyn dros hanner can mlynedd Cafodd Dic neu Richard Lewis Jones ei eni yn Nhre'r-ddôl yng Ngheredigion yn 1934. Ond fel Dic Yr Hendre y cafodd ei adnabod ar ôl cymryd awenau'r fferm ym Mlaenannerch ger Aberteifi. Meistr cynganeddol Ac oddi yno y daeth ei enw yng Ngorsedd Y Beirdd. Dechreuodd farddoni ar ôl gadael ysgol a'r gynghanedd aeth â'i fryd ar ôl ysgrifennu limrigau.
Dic Yr Hendre yw Archdderwydd Cymru
|
Alun Jeremiah Jones (Alun Cilie) ddysgodd y grefft iddo. Mewn sgwrs deyrnged ar Radio Cymru dywedodd John Meirion Jones o Deulu'r Cilie fod Dic Jones yn ddyn ei filltir sgwâr ac "yn ymhyfrydu yn y traddodiad hwnnw." "Roedd e'n agos at y pridd a mam natur. Roedd ganddo feddwl dadansoddol ac roedd e'n hoffi athronyddu hefyd." Dywedodd mai'r cefndir hwn roddodd y ddisgyblaeth iddo sgrifennu cerddi gosgeiddig a chlasurol. Yn ddyn ifanc fe enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn y 1950au. Roedd byd amaeth yn ei ysbrydoli ac awdl Y Cynhaeaf arweiniodd at ei unig Gadair Genedlaethol, yn Eisteddfod 1966 yn Aberafan. Mae rhai wedi dweud fod hon ymhlith y cerddi gorau i ennill y gystadleuaeth erioed. Dywedodd fod y profiad o godi ar ei draed yn y pafiliwn yn un "hollol unigryw". "Roedd sefyll yng nghanol y pafiliwn a'r golau ymlaen arna i a phawb yn chwilio am y bardd yn teimlo'n union fel 'sen i'n sefyll mewn cae o wenith a hwnnw yn ysgwyd," meddai. Fe ddaeth i'r brig 10 mlynedd yn ddiweddarach yn yr un gystadleuaeth yn Eisteddfod Aberteifi gydag awdl Y Gwanwyn. Ond doedd 'na ddim ail gadair i fod. Dwys a digri Penderfynwyd bod Dic Jones wedi torri rheolau'r Eisteddfod gan ei fod yn aelod o bwyllgor llên y Brifwyl. Felly fe gafodd Alan Llwyd ei gadeirio ddyddiau ar ôl iddo ennill y Goron yn yr un Eisteddfod. Cafodd y ddwy awdl eu cyhoeddi yn y Cyfansoddiadau - yr unig dro i hynny ddigwydd.
Enillodd Dic Jones y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1966
|
Ar y pryd dywedodd Dic ei fod wrth anfon yr awdl i'r gystadleuaeth yn ymwybodol ei fod wedi "torri ystyr y rheol ond nid ei hysbryd". "Un peth yw cystadlu, peth arall yw ennill ... yn ymwybodol ond yn hidio dim. "Y gân sy'n bwysig ac yn dal yn bwysig i mi o hyd. "Mae Steddfod Aberteifi ar ei hennill, wedi cael cyhoeddusrwydd, wedi cael dwy awdl a'r rhain yn rhai da, fwy nag y gallen nhw ddweud am ambell i steddfod arall." Er mai prydferthwch byd natur ac amaethyddiaeth oedd ei brif ysbrydoliaeth, bu'n canu am bob math o bynciau - o'r dwys i'r digri. Ac er y siom yn 1976 roedd yn dal i gynganeddu yn fedrus ac yn ddiymdrech a llunio cerddi wrth i'r awen barhau i lifo. Cyhoeddodd sawl cyfrol a chyfrannu i gylchgronau fel Golwg â'i englyn wythnosol am flynyddoedd. Roedd yn un o Brifeirdd disgleiriaf ei genhedlaeth ac yr oedd yn aelod poblogaidd yng ngornestau Talwrn y Beirdd.
 |
CYFROLAU DIC JONES
Agor Grwn (1960)
Caneuon Cynhaeaf (1969)
Storom Awst (1978)
Sgubo'r Storws (1988)
|
Am gyfnod helaeth bu'n cyflwyno'r gyfres ar Radio Cymru. Uchafbwynt ei yrfa lenyddol oedd pan gafodd ei ethol yn 2007 i olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru. Dywedodd mai ehangu apêl y Brifwyl i fwy o bobl "yr ymylon" oedd un o'i amcanion. Fel amaethwr dywedodd y byddai'n dymuno gweld mwy o fynychwyr y Sioe Fawr yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol. Dywedodd fod 'na gymaint o ddawn ymhlith aelodau'r Urdd â'r Ffermwyr Ifanc ac y dylai'r ddau fudiad uno yn nes. Mae'n gadael gwraig, Siân. Bu farw un o'u plant, Esyllt, yn blentyn ifanc iawn.
|