Roedd Dic Jones yn gynganeddwr greddfol
Bu farw Dic Jones, Archdderwydd Cymru, yn 75 oed ddydd Mawrth Awst 18. Isod mae teyrngedau i Dic Jones wedi ei farwolaeth. Cafodd angladd breifat ei gynnal ddydd Sadwrn Awst 22. Bydd gwasanaeth coffa iddo yng Nghapel Tabernacl Aberteifi ar Fedi 5.
Y Prifardd John Gwilym Jones, Cofiadur Gorsedd y Beirdd Fe fyddai'n cofio amdano fe fel cyfaill agos iawn, yn gwmnïwr diddan iawn ond yn fwy na hynny, yn ei gofio a'i barchu am yr hyn y mae o wedi ei roi i lenyddiaeth Cymru. Roedd y cynganeddwr mwya rhugl yr oeddwn i erioed wedi i gyfarfod. Nid yn unig hynny, roedd dyfnder ei farddoniaeth wedi golygu ei fod o'n rhan o'r adfywiad sydd wedi bod ar y canu caeth yng Nghymru. Roedd hynny yn deillio, nid yn unig o'i ddawn fel cynganeddwr ond hefyd i'r ffaith ei fod yn uwchlaw popeth yn fardd. Pan gafodd o'i urddo yn Archdderwydd, roedd 'na ryw falchder yn ein calonnau oherwydd ei fod o'n un yr oedd pawb yn ei barchu am ei ddawn ac am ei farddoniaeth. Mae ei gyfrolau yn siarad drostyn eu hunain. Yna yn yr un modd yr oedd wedi bod yn ganolbwynt i'r bywyd diwylliannol yng ngwaelod Sir Aberteifi. Roedd o'n gyfansoddwr digri gyda'r gorau, nid yn unig yn ei gerddi caeth ond hefyd yn y cerddi rhydd. Ac i'r gwrthwyneb wedyn, doedd neb yn llwyddo yn well na Dic yn y cerddi dwys. Mae 'na ambell i gerdd ddwys gan Dic fydd yn rhan o'n llenyddiaeth tra bydd yr iaith. Fe fydd 'na lawer o bethau fel yna yn aros yn y cof. Ond fe fydd 'na ar hyn o bryd dipyn o hiraeth yn fy nghalon i amdano.
Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hon yn golled fawr, nid yn unig yn golled i'r Eisteddfod ac i Orsedd y Beirdd ond i Gymru hefyd. Ond i'w deulu y mae'r golled fwya ac rydym i gyd yn cydymdeimlo gyda nhw heddiw. Roedd ei ddewis yn Archdderwydd yn ddewis poblogaidd, yn ŵr hynaws, yn ŵr hawdd iawn cydweithio gyda fo ac yn barod iawn ei gymwynas ac yn barod ei gyngor. Doedd o erioed wedi anghofio ei wreiddiau er ei fod yn enwog fel bardd ac yna Archdderwydd. Roedd yn ddyn cyfforddus iawn yng nghwmni pobl a phobl yn cael eu tynnu tuag ato oherwydd ei fod yn gymeriad carismataidd ac mor ffraeth. Fyddai Dic byth yn rhoi'r argraff ei fod yn poeni am ddim byd. Pan fyddwn i'n mynd ato i siarad roedd ganddo wastad air o gyngor, wastad yn gweld yr ochr ysgafn o bethau a wastad yn gefnogol.
Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad. Trist oedd clywed y newyddion am farwolaeth y Prifardd Dic Jones wedi cyfnod hir o salwch. Roedd gweld ei golli hefyd ar Faes yr Eisteddfod yn y Bala eleni, ac y mae'n siŵr y byddai gwobrwyo llenorion o Geredigion a Sir Gar wedi bod yn destun balchder iddo. Roedd Dic un o feirdd gorau Cymru'r ugeinfed ganrif a thrwy ei ddawn o drin geiriau ac i drin y tir, fe lwyddodd i gadw yn agos at ei bobl a'i gynefin
Ivonne Owen, o'r Wladfa. Fe fu'n fraint aruthrol i ni, bobl Y Wladfa, groesawu Archdderwydd Cymru i'n eisteddfod yn Hydref 2008. Nid oedd enw Dic Jones yn anghyfarwydd i ni gan iddo ennill y gadair yn 1965. Wedi iddo dderbyn yn garedig i fod yn feirniad ar y cystadlethau Cymraeg yn ein Eisteddfod cafwyd yr anrhydedd iddo draethu ei feirniadaeth yn bersonol ar ei llwyfan. Roedd hwnw yn achlysur i ni drysori yn ein cof. Yn ystod egwyl ar y dydd Sadwrn fe fuodd o a'i wraig yn hynod o garedig yn ymweld a ffrind iddo, Keneth Evans. Fe fu Keneth yn gweithio ar ei ffarm yn 1965 pan ymwelodd a Chymru. Gwelais i erioed neb mor ddihymongar, yn anwybyddu rhinweddau ei swydd i ymweld a hen gydnabod sydd yn dioddef o afiechyd. Gyda diolch yn ein calonnau gwerthfawrogwn ei fywyd llawn er budd Cymru a Chymreictod. Cydymdeimlwn a'r teulu yn eu colled.
Dafydd Iwan Mae colli Dic fel colli un o'r teulu, er nad oedd yn perthyn trwy waed. Yr oedd yn perthyn o ran anian, o ran ei hiwmor ac o ran ei ddawn i athrylith fawr y werin Gymraeg. Doedd dim yn fychan am Dic Jones, roedd ei weledigaeth yn eang, ei orwelion yn llydan a'i gonsyrn yn ddi-ben-draw. Ond roedd ei wreiddiau yn ddwfn ym mhridd ei filltir sgwâr, ac er mor wledig yw'r traddodiad barddol Cymraeg, efallai mai Dic oedd un o'r ychydig wir feirdd y tir a'r pridd a welwyd yng Nghymru. Erys ei waith a'i gampweithiau, a'r cof am ei bersonoliaeth radlon, yn gofgolofn fythol, ac y mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda Siân a'r teulu oll.
Geraint ap Iorwerth, Llywydd Gorsedd Y Wladfa, Patagonia, ar rhan holl aelodau'r Orsedd. Estynnwn ein cydymdeimlad ninnau yma yn y Wladfa ar ôl clywed y newyddion trist. Bu'n fraint adnabod y Prifardd Dic Jones pan ddaeth atom y llynedd i ymuno yn seremoni'r Orsedd. Cydymdeimlwn yn fawr a'i deulu a'i gydnabod.
Adrian Morgan, Aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol Yr oedd Dic yr Hendre ymhlith y beirdd mwyaf disglair a welodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo ddychymyg byw a dawn anhygoel i drin geiriau. Yr oedd, fodd bynnag, yn fwy na bardd yn unig: diolchaf am ei hynawsedd arbennig, am ei garedigrwydd a'i gymeriad twymgalon a charedig. Gwerthfawrogodd Dic yr Hendre holl rinweddau anhygoel a chyfoethog y winllan a ymddiriedwyd i'w ofal: gwnaeth ei orau, bob amser, i'w gynnal wrth lafurio ar y tir a thrwy ymroi wrth y 'pethau'. Dyma ddyn amryddawn, un a gyflawnodd amryw o gampau nodedig iawn, nad anghofiodd ei wreiddiau. Fe fydd ffyddloniaid yr Eisteddfod Genedlaethol, a phobl Cymru gyfan, yn gweld ei golled yn fawr. Diolch amdano.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru Roedd Dic Jones yn fardd dawnus dros ben ac mae'i golled yn ergyd mawr i bob un ohonon ni yng Nghymru. Chwaraeodd ran amlwg yn ein bywyd diwylliannol ers hanner canrif. Y tro cyntaf i mi ei weld wrthi'n perfformio fel bardd oedd yn neuadd pentref Pontgarreg ger Llangrannog a hynny ymhell dros 50 mlynedd yn ôl. Tarodd dau beth amdano arna'i ar unwaith, a byth oddi ar hynny fe arhosodd y ddau beth yna fel argraff barhaol o'r gwir Dic Jones. Roedd yn anhygoel o dalentog ond ar yr un pryd heb rithyn o hunan bwysigrwydd. Dyma fardd a ddaeth o'r Werin - y ffarmwr oedd yn well bardd na'r holl weinidogion eglwys a'r athrawon a aeth i'r brifysgol ac oedd fel arfer yn ennill yr holl gystadlaethau ar gyfer y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyna paham mae Dic Jones bob amser wedi chwarae rhan gwbl allweddol yn ein meddylfryd cenedlaethol yng Nghymru.
Y Prifardd Idris Reynolds Mae Dic yn ffigwr eiconig yn hanes y genedl Gymreig. Dwi ddim yn meddwl welwn ni neb tebyg iddo eto. Mae ei gyfraniad wedi bod yn aruthrol. I ddechrau fel bardd. Mae o wedi ysgrifennu dwy o awdlau mwya'r iaith. Bu'n canu am ryw hanner canrif ac mae rhai o'i ganeuon, yn enwedig y rhai teuluol efallai, fyw tra bod yr iaith Gymraeg fyw. Ar ben hynny, roedd yn llenor arbennig o dda. Fe fyddwn i'n rhoi ei hunangofiant yn yr un tir a Hen Dy Fferm D J Williams, mae'n glasur, allai ddim dweud mwy na hynny. Roedd yn adnabod ei bobl, y cymeriadau cefn gwlad ac mae rhai o'i ysgrifau coffa am gymeriadau yn berlau. Hefyd roedd yn gerddor, yn aelod hyd y diwedd o gôr Blaenporth gafodd ei sefydlu gan ei dad. Roedd yn berson llawn iawn. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn geiriau a'r modd yr oedd geiriau wedi newid a datblygu a newid ystyr dros amser. Roedd yn mwynhau chwaraeon, yn ddyn rygbi ac yn wybodus iawn yn y rheolau ac yn chwaraewr pwl arbennig o dda. Amaethwr oedd o, dyn ei bobl a dyn ei ardal ac mae ei ddwy awdl yn deyrnged iddo. Yr Hendre oedd ei fyd.
Y Prifardd Ceri Wyn Jones Roedd Dic Yr Hendre yn fardd gwlad yng ngwir ystyr y gair. Fe ganodd o gerddi i'w filltir sgwâr a oedd, oherwydd eu ffraethineb, eu naturioldeb a'u dynoldeb nhw, yn siarad â Chymru Gyfan â'r hil ddynol i ddweud y gwir ac mae'r golled ar ei ôl yn enfawr. Fe oedd y bardd amaethwyr, yn Archdderwydd ac felly yn rhychwantu cymaint o fydoedd gwahanol. Roedd 'na elfen boblogaidd iawn yn ei ganu, yn ei gerddi ond hefyd yn fardd oedd yn gallu plesio'r ysgolhaig ar yr un pryd ac mae hynny yn dipyn o gamp. Roedd hi'n siom nad oedd o'n yr Eisteddfod i'm Coroni ac yntau yn byw rhyw bum milltir lan yr hewl oddi wrtha i a finnau yn gyfarwydd iawn gyda'i blant, y fo a Siân. Roedd hi'n falch gwybod ei fod yn gwylio gartre'.
Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig Cymru. Mae'n golled fawr wrth gwrs i golli ffermwr cefn gwlad amlwg iawn a bardd cenedlaethol ac wrth gwrs yr Archdderwydd ar hyn o bryd. Nid yn unig yn golled i'r bobl ac i'r gymdeithas yn yr ardal yr oedd o'n byw ac yn amaethu ynddi, ond mae'n golled i'r genedl yn gyfan. Roedd Dic Jones yn siaradwr ar ran ei ddiwydiant a'i gymuned wledig. Yn siarad drwy ei amaethu bob dydd a drwy ei farddoniaeth. Fe fydd y farddoniaeth yn aros am genedlaethau i ddod ac fe fydd y cof amdano yn aros efo ni am amser hir iawn.
Brian Thomas, Caerlyr Dic Jones a T Llew Jones, dau o hoelion wyth ein cenedl a'r ardal hon. Y ddau'n golled enfawr. Mor drist o golli Dic. Dyn unigryw, ni fydd ei debyg eto.
James Lewis Caiff orffwys wrth ei gwysi - wedi hau Ar dywydd ffrwythloni A meithrin wna'n hegin ni Ar urddas cnwd ei gerddi.
|