British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 17 Awst 2009, 05:53 GMT 06:53 UK
Post: Achub cangen?

Arwydd Swyddfa'r Post
Fe fydd 2,500 o swyddfeydd yn cau yng ngwledydd Prydain

Mae gobaith y bydd swyddfa bost Talybont ger Aberystwyth oedd i fod i gau ei drysau mewn ychydig ddyddiau yn cael aros ar agor.

Yn ôl Swyddfa'r Post, maen nhw wedi dod i "gytundeb dros dro " i alluogi'r swyddfa i aros yn agored y tu hwnt i ddydd Llun.

Y bwriad gwreiddiol oedd sefydlu gwasanaeth symudol rhan amser yn lle'r swyddfa.

Ond wedi ymgyrch leol, fe ddaeth cadarnhad gan Swyddfa'r Post eu bod wedi dod i "gytundeb dros dro".

Bydd hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth yn parhau yn y pentref fel rhan o bartneriaeth newydd gyda swyddfa bost Penparcau yn Aberystwyth.

Dywedodd Tony Jones o Swyddfa'r Post: "Dwi wrth fy modd ein bod wedi cytuno ar ffordd ymlaen, a dwi'n siŵr y bydd y pentrefwyr yn croesawu hyn".

Gwnaed y penderfyniad gwreiddiol i gau cangen Talybont ym Mehefin 2008 fel rhan o doriadau ledled Prydain.



HEFYD
Post: Cau 11 o ganghennau
28 Awst 08 |  Newyddion
Post: Cau 44 o ganghennau
05 Awst 08 |  Newyddion
Post: Cau 11 swyddfa lleol
10 Meh 08 |  Newyddion
Pryder symud swyddfa bost
26 Ebr 07 |  Newyddion
Cau tair swyddfa'r post
04 Meh 08 |  Newyddion
Swyddfeydd Post i gau
22 Ion 08 |  Newyddion
Trafod cau swyddfeydd post
30 Hyd 07 |  Newyddion
Trafod cau swyddfeydd post
09 Rhag 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific