British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 13 Awst 2009, 16:18 GMT 17:18 UK
Aliwminiwm: Gwaith yn dod i ben

Gwaith mwyndoddi
Bydd y gwaith cynhyrchu yn dod i ben ddiwedd medi

Mae Aliwminiwm Môn wedi cadarnhau y bydd eu gwaith cynhyrchu yn dod i ben ddiwedd Medi.

Dyna'r adeg y mae'r cytundeb pŵer yn dod i ben.

Bydd 390 o weithwyr yn colli eu gwaith.

Roedd undeb Unite, yr AS lleol ac aelodau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth y Cynulliad wedi ymdrechu'n galed i sicrhau y byddai'r gwaith cynhyrchu'n parhau.

Mae'r cwmni wedi dweud: "Rydyn ni a'n partneriaid Rio Tinto Alcan a Kaiser Aluminum wedi asesu'r opsiynau.

"Er gwaetha ymdrechion pawb, doedd dim modd dod o hyd i ateb."

Cafodd y gweithwyr wybod am y penderfyniad pnawn ddydd Iau.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ieuan Wyn Jones: "Mae'r newyddion yn ysgytwol i'r gweithwyr ac economi'r ynys.

'Yn anodd'

"Dwi'n meddwl am y rhai fydd yn colli eu swyddi a theuluoedd y gweithwyr hynny.

"Mi wnaeth Llywodraeth y Cynulliad a rhai eraill bopeth o fewn eu gallu i gadw'r gwaith ar agor ... mi oedden ni'n gwybod y byddai'r broses yn anodd ond mi wnaethon ni ein gorau glas hyd at y funud ola.

"Rhaid i ni gefnogi'r gweithwyr a gwneud ein gorau i sicrhau swyddi, ailhyfforddi addas a chefnogaeth i'r rhai sy am sefydlu busnes."

Dywedodd y byddai llawer o deuluoedd yn "wynebu dyfodol ansicr."

Yn ol Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru roedd y newyddion yn "siom mawr."

'Deniadol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad:"Rydyn ni'n wedi gweithio'n galed ar y cynllun achub £48m ac mae'n anffodus nad oedd Rio Tinto a Kaiser yn derbyn cynnig oedd mor ddeniadol.

"Y brif flaenoriaeth yw helpu pobl i ddod o hyd i swyddi eraill neu gael sgiliau newydd."

Dywedodd eu bod yn cydweithio â'r cwmni a'r cyngor sir er mwyn creu swyddi ar safle'r gwaith.

Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddoddAliwminiwm Môn 250 o ddiswyddiadau. Roedd hynny'n ychwanegol i 140 o ddiswyddiadau gwirfoddol cafodd eu cyhoeddi ychydig amser yng nghynt.

Mae disgwyl y bydd 80 o bobl yn parhau i gael eu cyflogi ar y safle ar ol i'r gwaith cynhyrchu ddod iben.



HEFYD
Trafod dyfodol Aliwminiwm Mn
01 Ebr 09 |  Newyddion
Diswyddiadau i 140 o weithwyr
02 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific