Bydd yr arian i'w rannu rhwng y pwyllgor trefnu lleol yn Nhredegar ar gyfer Eisteddfod 2010 ac elusen Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig
Mae cynghorydd Annibynnol wedi seiclo o'r Bala i Lyn Ebwy lle bydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Fe seiclodd Jason Owen 130 milltir o Faes Eisteddfod y Bala i Flaenau Gwent. Cyrhaeddodd Y Gweithfeydd yng Nglynebwy ar ôl dau ddiwrnod o "seiclo caled". Cododd £1,000 ar gyfer y pwyllgor trefnu lleol yn Nhredegar ac elusen Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig. Mae ganddo ddau fab â'r cyflwr. 'Profiad gwych' Seiclodd drwy fynyddoedd Cymru i Lanfair-ym-Muallt ar hyd yr A470 cyn teithio i Grughywel a thros Mynydd Llangynidr i Lyn Ebwy. Dywedodd ei fod "wedi gwireddu breuddwyd" drwy gyflawni'r daith. "Gan nad yw'r Eisteddfod wedi bod yn yr ardal hon ers hanner canrif, roedd yn gyfle rhy dda i golli i godi ymwybyddyddiaeth wrth baratoi ar gyfer 2010. "Aeth yn dda iawn ac roedd yn brofiad gwych. Ges i groeso hyfryd pan gyrhaeddes i'n ôl. "Hoffwn i ddiolch i bawb am eu dymuniadau da a'u cefnogaeth - ac am fy helpu i godi cymaint o arian." Dywedodd ei fod wedi mwynhau y golygfeydd arbennig ar hyd y daith. Ond roedd yn drueni, meddai, y bu'n rhaid iddo golli angladd mam-gu ei bartner oherwydd y daith. Jason sydd â chyfrifoldeb am hamdden a diwylliant ar Gyngor Sir Blaenau Gwent. Cefnogaeth Gwnaeth y rhan gynta o'r daith ar ben ei hun ond dydd Sadwrn roedd 'na lywodraethwyr o Ysgol Gynradd Georgetown, Tredegar, yn gwmni iddo.
Jo Thomas o'r cyngor yn dymuno pob lwc i Jason
|
Roedd wedi arfer beicio "flynyddoedd mawr yn ôl," meddai, ac wedi teithio o'r Rhyl i Lyn Ebwy 14 blynedd yn ôl. "Mae'r Eisteddfod y flwyddyn nesa yn mynd i gynnig cyfleon arbennig. "Ges i gyfle i fynd o amgylch y Maes yn Y Bala, ac fe wnaeth argraff arna i. "Gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud yr un peth y flwyddyn nesa, ond efalle gyda mwy o weithgareddau i blant. "Bydd yn gyfle gwych i dynnu cymunedau gyda'i gilydd." Roedd y cyngor, meddai, wedi creu cysylltiadau rhwng ysgolion y sir ag ysgolion ardal Y Bala fydd yn mynd i'r Eisteddfod y flwyddyn nesaf. "Rydyn ni hefyd wedi creu cysylltiadau ag ysgolion yn ardal Wrecsam lle bydd yr Eisteddfod yn 2011."
|