British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Awst 2009, 10:48 GMT 11:48 UK
Hartson: "Anwybyddu arwyddion"

John Hartson
Hartson: "Anwybyddu arwyddion"

Mae John Hartson wedi cyfadde iddo anwybyddu arwyddion ei fod yn diodde o ganser am ddwy flynedd.

Dywedodd y cyn-beldroediwr rhyngwladol wrth bapur newydd The Sun iddo beidio mynd i weld meddyg ar ôl dod o hyd i lwmp ar ei gorff.

Yn y diwedd aeth am gyngor meddygol ar ôl diodde cur pen difrifol.

Dyna pryd gafodd cyn-chwaraewr Celtic ac Arsenal sy'n 34 oed wybod ei fod yn diodde o ganser y ceilliau oedd wedi lledu i'w ymennydd a'i ysgyfaint.

Cafodd ei ryddhau o'r ysbyty ddydd Mawrth ar ôl cael triniaeth gemotherapi yn Ysbyty Singleton Abertawe.

Cafodd lawdriniaeth frys ar ei ymennydd yn gynharach yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Nawr mae Hartson yn annog dynion i fynd i weld meddyg pe baen nhw'n dod o hyd i unrhyw beth anghyffredin ar eu cyrff neu o dan y croen.

Dywedodd ei fod o wedi anwybyddu'r peth a bod hynny'n "gamgymeriad".

"Roedd 'na lwmp ar fy ngheilliau ac o ni wedi sylwi ers peth amser.

"Ond wnes i ddim byd am y peth.

Bathodyn arbennig

"Roedd e yn fy mhoeni, byddai dweud yn wahanol yn gelwydd."

Datgelodd hefyd iddo ddweud wrth ei gariad, Sarah McManus, ond iddo ddweud wrthi hi i beidio â phoeni am y peth.

"Fe ddylwn wedi mynd yn syth i'r meddyg, ac mae'n bosib y byddai pethau wahanol iawn erbyn heddiw," meddai.

"Peidiwch ag oedi, oherwydd mae canser yn lledu yn gyflym."

Nos Fercher fe fydd pêl-droedwyr Cymru yn gwisgo bathodyn arbennig ar eu crysau yn cefnogi elusen canser.

Arron Ramsey a Robert Earnshaw yn gwisgo'r crysau arbennig
Arron Ramsey a Robert Earnshaw yn gwisgo'r crysau gyda'r bathodyn arbennig

Bydd y crysau yn cael eu gwerthu ar eBay wedi'r gêm gyfeillgar yn erbyn Monteregro.

Mae'r pêl-droedwyr hefyd wedi bod yn gwisgo crysau ymarfer arbennig hefyd.

"Roedd y chwaraewyr yn poeni am John ac am ddangos cefnogaeth," meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.

"Ar ôl y gêm fe fydd yr holl grysau yn cael eu gwerth ar eBay ar gyfer codi arian i'r elusen."

Yr wythnos diwethaf symudodd Hartson o Ysbyty Treforys i uned canser Ysbyty Singleton.

Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd Ymddiriedolaeth Prifysgol Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod y cyn-beldroediwr wedi gorffen ei driniaeth gemotherapi gyntaf.

'Allanol'

"Fe fydd yn cael triniaeth gemotherapi fel claf allanol," meddai'r datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu eu bod yn ddiolchgar i staff y ddau ysbyty.

"Diolch am eu cefnogaeth a'u gofal fel bod John wedi cyrraedd y rhan hon o'i driniaeth."

Enillodd 51 o gapiau dros ei wlad a sgorio 14 o goliau.

Bu'n chwarae i Celtic, Arsenal, West Ham, Wimbledon, Coventry, West Bromwich Albion, Norwich a Luton.



HEFYD
John Hartson yn gadael ysbyty
11 Awst 09 |  Newyddion
Hartson yn dechrau cemotherapi
04 Awst 09 |  Newyddion
Hartson: Symud ysbyty
03 Awst 09 |  Newyddion
John Hartson 'yn gwella'
27 Gorff 09 |  Newyddion
John Hartson: Yn sefydlog
20 Gorff 09 |  Newyddion
Negeseuon i John Hartson
16 Gorff 09 |  Newyddion
Llanc: Hartson yn 'hwb fawr'
24 Gorff 09 |  Newyddion
Hartson: Yn ddifrifol ond sefydlog
16 Gorff 09 |  Newyddion
Hartson yn dioddef o ganser
13 Gorff 09 |  Newyddion
Hartson: Canser yn lledu i'w ysgyfaint
15 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific