British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Awst 2009, 06:31 GMT 07:31 UK
Holi am daliadau Ian Woosnam

Ian Woosnam gyda Chwpan Ryder
Ian Woosnam oedd y capten llwyddiannus yn y gystadleuaeth yn 2006

Mae 'na bwysau ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatgelu faint o arian sy'n cael i ei dalu i Ian Woosnam i hyrwyddo cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghymru yn 2010.

Mae 'na son bod y taliadau werth degau o filoedd ers 2006 i ddefnyddio llun Mr Woosnam ar wefan y gystadleuaeth yn ogystal â hyrwyddo busnesau Cymru i fuddsoddwyr posib.

Er nad ydi'r golffiwr wedi bod yn gweithio yn uniongyrchol i Lywodraeth y Cynulliad mae o wedi bod yn gweithio i gwmni o'r enw Cwpan Ryder Cymru 2010.

Cafodd y cwmni ei sefydlu i sicrhau bod twrnamaint y Cwpan Ryder yn un llwyddiannus, a'i bod hi hefyd yn dod a chymaint ag sy'n bosib o fudd i Gymru.

Mae'r cwmni wedi cyflogi Mr Woosnam fel 'llysgennad'.

Hyrwyddo

Mae'n cael ei dalu am ganiatáu defnyddio lluniau ohono, ambell i ymddangosiad mewn cystadlaethau a hyrwyddo twristiaeth golff yng Nghymru.

Dywed y gwrthbleidiau yn y Cynulliad eu bod yn anfodlon nad oes yna wybodaeth ar gael am faint o arian cyhoeddus y mae Mr Woosnam yn ei gael a faint sy'n cael ei wario ar hyrwyddo'r gystadleuaeth.

Gan fod y cwmni, Cwpan Ryder Cymru 2010 yn derbyn tipyn o nawdd gan Lywodraeth y Cynulliad, mae'r gwrthbleidiau am wybod i ble mae'r arian yn mynd.

Yn ddiweddar fe gytunodd Ieuan Wyn Jones, dirprwy brif weinidog Cymru ac Alun Ffred Jones, y gweinidog treftadaeth, i gynyddu maint yr arian y mae Mr Woosnam yn ei dderbyn.

Yn y datganiad Saesneg ar wefan Llywodraeth y Cynulliad mae Cwpan Ryder Cymru 2010 yn gofyn am ragor o arian gan Lywodraeth y Cynulliad i wneud mwy o ddefnydd o'r golffiwr ar gyfer lluniau a marchnata.

Eisoes mae'r Llywodraeth y Cynulliad yn gwario £3 miliwn dros ddwy flynedd ar y gystadleuaeth.

Preifatrwydd

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y Cynulliad bod angen sicrhau sgiliau proffesiynol er mwyn gwneud y mwyaf o'r twrnament - ac o ganlyniad i hynny "mae Ian Woosnam yn llysgennad".

Dywedodd llefarydd nad oedd modd datgelu'r manylion am fod hynny yn fater o breifatrwydd masnachol.

Disgrifiwyd y gystadleuaeth fel "digwyddiad unwaith mewn bywyd," gan ychwanegu bod rhaid cymryd mantais ar hynny.

Ond mae'r Ceidwadwyr yn mynnu y dylai'r swm gael ei gyhoeddi.

"Mae Mr Woosnam yn cael ei dalu gan arian cyhoeddus, wedi ennill miloedd o bunnoedd mewn cystadlaethau yn ystod ei yrfa," meddai llefarydd.

Dywedodd Mike German o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod angen gwybod faint oedd Mr Woosnam yn cael ei dalu, a hefyd, beth oedden y trethdalwyr yn ei gael am yr arian.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific