British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009, 15:48 GMT 16:48 UK
'Wythnos lwyddiannus' yn y Bala

Arwydd Croeso Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau
Mae'r croeso yn Y Bala a gan drigolion Meirion a'r Cyffiniau wedi bod yn un cynnes

Er gwaetha pryderon yr wythnos diwethaf am law, siom nad oedd cadeirio na gwobrwyo cerddor buddugol, fe gafwyd wythnos lwyddiannus iawn yn Y Bala yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau, yn ôl ytrefnwyr.

Roedd 'na fwy nag erioed wedi cystadlu eleni ac fe wnaeth 164,689 ymweld â'r Maes, mwy nag yn y blynyddoedd diwethaf.

FFIGYRAU PRESENOLDEB 2009
NOS WENER: 1,245
DYDD SADWRN: 18,216
DYDD SUL:15,292
DYDD LLUN: 19,658
DYDD MAWRTH: 18,113
DYDD MERCHER: 24,794
DYDD IAU: 23,027
DYDD GWENER: 24,166
DYDD SADWRN: 20,178
CYFANSWM: 164,689

Wrth edrych ymlaen at y brifwyl ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd fe wnaeth Llywydd Llys yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni, Elfyn Llwyd, edrych yn ôl ar yr wythnos.

Fe wnaeth Mr Whittall ddisgrifio'r Eisteddfod fel un y 'Tair C', cyfeillgarwch, cynnes a chyfoethog.

"Mae nodweddion cyfeillgar y bobl leol a phobl ddwad wedi bod yn amlwg a phawb yn cyd-dynnu efo'i gilydd.

"Mae'r tywydd wedi bod yn gynnes iawn ac mae'r cyfoeth yma o ran y bobl sydd wedi bod yn cystadlu a'r profiadau mae'r plant a phobl ifanc wedi ei gael yn gyfoethog iawn.

FFIGYRAU PRESENOLDEB 2007 A 2008
NOS WENER: 1,009 / 1,634
SADWRN: 16,710 / 17,681
SUL:13,848 / 13,072
LLUN: 18,608 / 20,423
MAWRTH: 17,463 / 17,236
MERCHER: 23,092 / 20,952
IAU: 21,089 / 22,659
GWENER: 23,941 / 27,873
SADWRN: 19,184 / 15,167
CYFANSWM: 154,944 / 156,697

"Dwi'n mawr obeithio y byddan nhw'n teithio i Lyn Ebwy y flwyddyn nesaf i barhau'r profiad."

Wrth edrych ymlaen at gael diwrnod ar lan yr afon yn pysgota dywedodd Mr Llwyd bod hon wedi bod yn wythnos i'w chofio.

"Mae hi wedi bod yn un o wythnosau hapusa fy mywyd.

"Roeddwn wedi breuddwydio a gobeithio y byddai hon yn chwip o eisteddfod ond mae 'na sicrwydd rwan.

"Mae 'na rywbeth wedi bod yma ar gyfer dant pawb, y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg, pobl wedi dod yma o bell ac agos ac o wahanol wledydd.

"Fe fyddai'n cofio am y wên gan bawb yn ystod yr wythnos.

"Fel cadeirydd mae hi wedi bod yn fraint ac anrhydedd bod yn rhan o'r cyfan a dwi'n dymuno'n dda i Eisteddfod 2010."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific