British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 11 Awst 2009, 06:36 GMT 07:36 UK
Ffn symudol: Ateb y galw?

Ffn symudol
Cwmnau Samsung ac Orange sy wedi creu'r ffn

Mae Bwrdd Iaith yr Alban wedi dweud y gallai cyhoeddiad am ffôn symudol Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod fod yn hwb i ymgyrch am un Gaeleg.

"Fe fyddai'n cael ei farchnata ar gyfer pobl ifanc," meddai Hugh Dan MacLennan o Bord na Gaidhlig neu'r bwrdd iaith.

Cwmnïau Samsung ac Orange sy wedi creu'r ffôn Cymraeg fydd ar gael mewn siopau Orange o fis Medi ymlaen.

Fe fydd modd anfon negeseuon testun yn Gymraeg ac mae opsiynau'r fwydlen yn yr iaith.

Dywedodd Pennaeth Manwerthu Orange, Sian Doyle: "Mae'r cwmni yn falch eu bod wedi darparu'r gwasanaeth arloesol.

"Mae'r farchnad Gymraeg yn bwysig i ni ac mae'n rhan o'n menter ehangach i roi mwy o ddewis i siaradwyr Cymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Samsung y cafodd gwasanaeth Gwyddeleg ei lansio'r llynedd yn Iwerddon.

"Dwi'n credu'n gryf eu bod nhw wedi gwneud hyn yng Nghymru am ei fod yn ddeniadol i bobl ifanc," meddai Mr MacLennan.

Roedd cwmniau am i'r cyhoedd sylweddoli eu bod nhw'n cefnogi'r Gymraeg, meddai.

"Yn sicr, mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn rhoi neges glir i ni yn yr Alban."



HEFYD
Y ffn symudol Cymraeg cynta
04 Awst 09 |  Newyddion
Prifysgol: 'Torri tir newydd'
24 Gorff 09 |  Newyddion
Cyfri'r gost: Banc yn ildio
30 Mai 09 |  Newyddion
Albanwyr yn 'ei mentro hi'
15 Mai 09 |  Newyddion
Anelu at gorff 'dwyieithog'
01 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific