Beirniaid yn dweud fod yna 'ddiffyg gweledigaeth'
Doedd 'na ddim cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009 er "dirfawr siom" i'r tri beirniad. Roedd 'na "ddiffyg gweledigaeth" yn y gystadleuaeth er bod y testun, Cyffro, yn cynnig "cryn dipyn o gyfle," meddai Branwen Jarvis, Ceri Wyn Jones a Gwenallt Llwyd Ifan. Roedden nhw'n unfrydol na fyddai modd cadeirio. "Nodweddion amlwg y gystadleuaeth drwodd a thro oedd diffyg gweledigaeth, diffyg meddyliaeth, diffyg ymboeni â threfn ac eglurder," meddai Branwen Jarvis. Roedd canu ar bynciau amrywiol a gwahanol, meddai, ond roedd nifer yr ymgeiswyr yn "annisgwyl ac yn siomedig". Dywedodd yr Archdderwydd Selwyn Iolen ei fod yn "cydymdeimlo â Branwen Jarvis am orfod torri'r newyddion i ni. "Wrth gwrs, mae'r gynulleidfa hefyd yn siomedig. "Dyma'r tro cynta ers 1998 i'r wobr gael ei hatal ac rwy'n siwr bod yr heddlu hefyd yn siomedig bod yna gadair heb fardd. "Os cadair wag, i fi, cofiaf am wên Tanni Grey-Thompson yn ei chadair arbennig hi ddechrau'r wythnos. "Mae'n bwysicach cadw'r safon na chynnal seremoni." Saith yn ymgeisio Tasg y beirdd oedd llunio awdl neu gerdd mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell. Roedd saith wedi ymgeisio am y Gadair gafodd ei gwneud gan Dilwyn Jones.
Branwen Jarvis yn traddodi'r feirniadaeth gyda Ceri Wyn Jones a Gwenallt Llwyd Ifan yn gwrando
|
Prifardd Eisteddfod Meirion y tro diwetha oedd Ceri Wyn Jones, un o'r beirniaid eleni. Fe enillodd y Goron yn gynharach yn yr wythnos a dywedodd bod cadw'r gyfrinach nad oedd neb wedi ennill y Gadair "yn llawer gwaeth" na chadw'r gyfrinach ei fod wedi ennill y Goron. Ers canrif mae'r Gadair wedi cael ei hatal 10 o weithiau, gan gynnwys yr un ddiwetha i gael ei hatal yn 1998 yn Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr. Wedi'r seremoni dywedodd Branwen Jarvis ei bod yn teimlo'n "benisel" cyn traddodi. "Fe fyddai wedi bod yn anoddach petai un neu ddau eisiau cadeirio." Diffyg cysondeb Dywedodd Gwenallt Llwyd Ifan fod 'na "fflachiadau" gan nifer o ymgeiswyr ond bod 'na ddiffyg cysondeb. Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno cadair a £750 o wobr. Dywedodd yr heddlu bod hi'n siomedig iawn nad oedd 'na deilyngdod ond yn llwyr dderbyn y penderfyniad a bod rhaid cadw at y rheolau. Fe wnaethon nhw ychwanegu eu bod yn awyddus i weld y Gadair yn cael ei arddangos mewn man cyhoeddus. Fe fydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn penderfynu beth fydd yn digwydd i'r Gadair. Doedd 'na ddim cadeirio yn Eisteddfod Yr Urdd ym Mae Caerdydd eleni chwaith.
|