British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Awst 2009, 14:37 GMT 15:37 UK
Aromatherapi: Diarddel bydwraig

Olewon aromatherapi
Fe wnaeth menyw beichio lyncu cymysgedd o olew aromatherapi

Mae bydwraig 53 oed wedi cael ei diarddel ar ôl i fenyw feichiog lyncu cymysgedd o olew aromatherapi.

Roedd Sandra Hughes o Ewlo, Sir Y Fflint, oedd â diploma mewn aromatherapi, wedi rhoi'r cymysgedd i'r fenyw yn Ysbyty Maelor Wrecsam am ei bod yn diodde pen tost.

Penderfynodd y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd ei bod hi wedi torri rheolau.

Clywodd y gwrandawiad ei bod hi wedi rhoi cymysgedd o olew almon, leim a lafant.

Camgymeriad

Ond mewn camgymeriad fe lyncodd y fenyw'r cymysgedd.

Rhoddwyd gwybod i uned wenwyn yr ysbyty a chafodd y fenyw ei monitro tan yr enedigaeth .

Roedd Mrs Hughes wedi anwybyddu gorchymyn i beidio ag ymarfer ei sgiliau aromatherapi ar wragedd beichiog.

Doedd Mrs Hughes, oedd wedi ymddiswyddo o Ymddiriedolaeth Gogledd Dwyrain Cymru, ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.



HEFYD
Bydwragedd: Camau newydd
26 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific