British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Awst 2009, 10:33 GMT 11:33 UK
Gwyl jazz ar newydd wedd

Abdullah Ibrahim
Un o'r sr: Y pianydd Abdullah Ibrahim

Pianydd o Dde Affrica, Abdullah Ibrahim a sacsoffonydd o Gameroon, Manu Dibango, yw rhai o'r sêr yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu sy'n dechrau ddydd Gwener.

Mae disgwyl hyd at 20,000 o ymwelwyr.

Mewn gŵyl lai fe fydd modd gwylio 25 o gyngherddau rhwng ddydd Gwener a dydd Sul a digwyddiadau teuluol am ddim, tân gwyllt a gorymdaith carnifal.

Ymysg perfformwyr eraill eleni mae'r clarinetydd Courtney Pine.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn Theatr Brycheiniog, y Babell Fawr, Neuadd y Farchnad, Gwesty'r Castell a'r Eglwys Gadeiriol.

'Cefnogol'

Dywedodd trefnydd yr ŵyl Peter Florence: "Mae Aberhonddu yn wahanol eleni ac yn wahanol iawn y flwyddyn nesa.

"Mae'n gyfnod cyffrous ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi bod mor gefnogol."

Roedd yr ŵyl mewn perygl o ddod i ben yn gynharach eleni pan aeth y cwmni oedd tu ôl i'r fenter i ddwylo'r derbynwyr.

Ond ym mis Mawrth cafodd trefnwyr Gŵyl y Gelli eu dewis i gynnal Gŵyl Jazz Aberhonddu.

'Her'

Roedd bwriad i ohirio'r ŵyl yn 2009 wedi i Gyngor Celfyddydau Cymru, oedd yn gyfrifol am edrych ar ddyfodol yr ŵyl, ddweud y byddai trefnu digwyddiad llwyddiannus mewn chwe mis yn "ormod o her".

Ond penderfynwyd yn y diwedd i gynnal digwyddiad llai.

Ymysg perfformwyr eraill eleni mae'r clarinetydd Courtney Pine.

Dathlodd yr ŵyl ei phen-blwydd yn 25 oed yn 2008.

Ond fe gafwyd problemau ariannol wrth i dywydd garw effeithio ar werthu tocynnau.



HEFYD
Gwyl y Gelli'n achub Aberhonddu
16 Maw 09 |  Newyddion
Gwyl Jazz Aberhonddu am ddigwydd
18 Chwef 09 |  Newyddion
Gwyl jazz: Dau yn y ras
03 Chwef 09 |  Newyddion
Gwyl jazz yn nwylo'r derbynwyr
17 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific