British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 7 Awst 2009, 14:39 GMT 15:39 UK
Urddo Cymry am gyfraniadau

Eirian ac Edwin Jones
Eirian ac Edwin Jones

Cafodd 27 o bobl eu derbyn er anrhydedd i Orsedd y Beirdd ddydd Gwener ar Faes Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau.

Rhai yn wynebau cyfarwydd iawn yng Nghymru, eraill yn bobl weithgar yn eu bröydd.

Roedd 'na nerfusrwydd yng nghefn y Pafiliwn wrth iddyn nhw ymbaratoi, newid a dechrau gorymdeithio tuag at Gylch yr Orsedd.

Yn eu plith yr oedd y darlledwr Dei Tomos a'r Barnwr Michael Farmer a phrif lyfrgellydd Cymru, Andrew Green.

Hefyd yn cael eu hurddo yr oedd cwpl priod sy'n byw yng Ngharrog, Corwen.

Mae Eirian ac Edwin Jones wedi bod yn weithgar iawn dros y blynyddoedd yn eu bro ac fel athrawon yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

'Braint anhygoel'

Nid yn aml mae cyplau priod yn cael eu hanrhydeddu a dywedodd Eirian bod hi'n deimlad braf iawn.

Mae'r ddau yn weithgar iawn yn yr Eisteddfod, Edwin fel rheolwr llwyfan, sy'n rhoi iddo ei enw barddol, Edwin Llwyfan ac mae Eirian Carrog yn gweithio yn Swyddfa'r Eisteddfod.

Bu'r ddau yn gwneud y gwaith ers Eisteddfod Bro Delyn yn Yr Wyddgrug yn 1991.

"Mae'r llwyfan mewn dwylo saff tra fydda i'n y Cylch," meddai Edwin.

"Rydym yn gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau yn yr Eisteddfod," ychwanegodd Eirian.

"Mae'r anrhydedd yn golygu tipyn mwy i ni yn yr ardal yma wrth gwrs ac mae'n fraint anhygoel ac rydym yn ddiolchgar iawn."

Gerald Williams
Bu Gerald Williams yn gohebu o eisteddfodau am 34 mlynedd

Cafodd Gerald Williams, cyn-newyddiadurwr gyda Daily Post neu Gerald ap Hywel dipyn o syndod o dderbyn y llythyr i'w wahodd i gael ei urddo.

"Roedd yn gwbl annisgwyl. Dwi erioed wedi chwennych hyn ond rwy'n gwerthfawrogi'r anrhydedd, anrhydedd unwaith mewn oes."

Mae Mr Williams wedi gohebu o eisteddfodau am ddegawdau.

"Fy eisteddfod gyntaf oedd un yr Urdd yn 1956 yng Nghaernarfon pan oeddwn yn brentis gyda'r Herald.

"Hon fydd fy nhrydedd Eisteddfod yn Y Bala ond wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn rhan o'r seremoni gan gofio fy mod wedi ymddeol ers 10 mlynedd.

"Dwi'n gwerthfawrogi yn fawr y gydnabyddiaeth."

David Meredith
Dyweddodd David Meredith bod angen mwy o seremoniau

Un arall sy'n byw ym mro'r brifwyl ydi David Meredith.

Dywedodd Dafydd Cynllwyd bod y cyfan yn gyffrous dros ben.

"Dwi wrth fy modd. Dwi'n credu'n gryf yn y seremoni.

"Does ganddo ni ddim digon o seremonïau yng Nghymru ac mae hon yn seremoni sy'n bwysig iawn i'r genedl.

"Mae hi'n fraint fawr i gael cymryd rhan ac mae hi'n ddefod sy'n pwysleisio ein harwahanrwydd ni fel cenedl."

Selwyn Evans
Eisteddfod Y Bala yn 1967 oedd prifwyl gyntaf Selwyn Evans

Er mai un o Roshirwaun ym Mhen Llyn yw Selwyn Evans, mae o bellach yn byw yn Yr Wyddgrug ac yn berchennog Siop y Siswrn yn y dref ac yn Wrecsam.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl cael y llythyr, roedd yn sioc enfawr i mi," meddai Sel (ei enw barddol).

"Dwi wedi mwynhau bod yn rhan o'r Eisteddfod mewn ffordd wahanol iawn dros y blynyddoedd."

Dywedodd bod hi'n eironig ei fod yn cael ei urddo yn Y Bala, gan mai'r eisteddfod yno yn 1967 oedd ei eisteddfod gyntaf.

"Mae'n deimlad rhyfedd iawn bod yn y wisg, mae hi'n steddfod wahanol iawn i mi eleni," meddai'r gwr sydd wedi bod yn cadw stondin ar y maes am flynyddoedd.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific