Does dim angen caniatâd cynllunio llawn ar gyfer mastiau llai na 15 metr
|
Mae'n bosib y bydd rheolau cynllunio mwy llym yn cael eu cyflwyno ar gyfer mastiau ffonau symudol. Ar hyn o bryd mae gan gwmnïau hawl i godi mastiau o dan 15 metr oni bai bod cynghorau'n gwrthwynebu o fewn cyfnod o 56 diwrnod. Ond mae adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth y Cynulliad wedi dweud y dylai caniatâd cynllunio llawn fod yn orfodol cyn codi unrhyw fast. Tra bod ymgyrchwyr yn croesawu hyn, mae cwmnïau ffonau symudol wedi dweud y byddai'r newid yn golygu y byddai Cymru o dan anfantais yn yr oes ddigidol. Mewn sawl ardal mae pobl wedi ymgyrchu yn erbyn mastiau am eu bod yn poeni am yr effaith ar iechyd a'r amgylchedd. Mae'r adroddiad wedi dweud y dylid symleiddio'r drefn bresennol. Dywedodd cwmnïau y gallai'r newid olygu y byddai codi mastiau yng Nghymru "yn fwy costus". Mae Mike Dolan, o Gymdeithas y Gweithredwyr Ffonau Symudol, wedi dweud y gallai hyn effeithio ar ddyfodol digidol Cymru, gan gynnwys y rhyngrwyd symudol 3G. 'Cymunedau lleol' "Mae'n bwysig bod buddsoddiad yn parhau fel bod cwsmeriaid ffonau symudol yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu." Ond mae Kath Sayce, ymgyrchodd yn erbyn mast ym Maesteg, wedi honni nad yw'r drefn bresennol yn deg. "Doedd yna ddim digon o amser i wrthwynebu. Dylid rhoi mwy o ystyriaeth i farn cymunedau lleol." Dywedodd yr adroddiad fod y cyhoedd yn poeni am effaith mastiau ar iechyd. Ond, yn ôl gwaith ymchwil, does dim tystiolaeth fod tonnau radio ffonau symudol yn niweidiol i iechyd. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad y byddai'r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, yn astudio'r adroddiad ac yn gwneud datganiad yn yr hydref.
|