British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Awst 2009, 15:47 GMT 16:47 UK
Epynt: Milwr yn ddifrifol wael

Glen Edwards
Deellir bod Glen Edwards yn hofforddi ar gyfer Afghanistan

Mae aelod o'r Fyddin Diriogaethol yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi iddo gael ei anafu yn ystod ymarferiad ar Fynydd Epynt.

Roedd Glen Edwards o Fagillt yn Sir y Fflint yn ymarfer yn ardal Pontsenni ddydd Mercher pan gafodd ei anafu mewn ffrwydrad.

Aed ag e i Ysbyty Treforys, Abertawe.

Digwyddodd y ddamwain tua 5.30am.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydyn ni'n meddwl am y teulu ac yn ymchwilio i'r ddamwain.

"Ni fyddai'n addas i ni roi mwy o sylwadau."

Credir fod uned y milwr yn hyfforddi ar gyfer Afghanistan.

Dywedodd ewythr Mr Edwards, Terry Renshaw, eu bod yn aros am fwy o wybodaeth.

"Mae fy chwaer a dwy o chwiorydd Glen a'i frawd ar ochr ei wely yn Ysbyty Treforys.

"Dwi yma wrth y ffôn yn aros am fwy o wybodaeth."



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific