British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Awst 2009, 13:39 GMT 14:39 UK
Cynulliad: 'Newid rheol iaith'

Y Senedd ym Mae Caerdydd
Mae Cofnod y Trafodion wedi bod yn ddwyieithog ers sefydlu'r cynulliad

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau cwbl ddwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad.

O hyn ymlaen fe fydd cyfraniadau Aelodau yn y Siambr yn cael eu cyfieithu o Gymraeg i'r Saesneg ond ni fydd areithiau Saesneg yn cael eu cyfieithu.

Ers sefydlu'r cynulliad yn 1999 mae trawsgrifiadau o Gyfarfodydd Llawn wedi bod yn gwbl ddwyieithog.

Pwyllgor dan gadeiryddiaeth y Llywydd, Dafydd Elis Thomas, yw Comisiwn y Cynulliad.

Mae'n cynnwys cynrychiolydd o bob plaid ac yn gyfrifol am fusnes corfforaethol y Cynulliad.

Ac mae'r comisiwn wedi dweud y byddai'r newid yn arbed £250,000 y flwyddyn.

'Gwelliannau'

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn ystyried cyflwyno nifer o welliannau i sicrhau bod gan bobl fynediad at drafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Senedd.tv yw'r prif lwyfan a ddefnyddir gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru i recordio a darlledu trafodion y Cynulliad.

"Rydym hefyd yn ystyried rhoi fersiynau cychwynnol o'r cofnod ysgrifenedig ar y we yn yr iaith wreiddiol yn unig. Byddant ar gael llawer yn gynharach nag yn y gorffennol ac felly yn cynyddu cyfranogiad pobl".

Ychwanegodd fod hyn yn golygu bod y polisi iaith ar gyfer cofnod y cyfarfodydd llawn yn union yr un fath â'r un ar gyfer y pwyllgorau (lle caiff cyfraniadau yn Gymraeg eu cyfieithu i'r Saesneg ond ni chaiff cyfraniadau yn Saesneg eu cyfieithu i'r Gymraeg).

Gofynnwyd i Fwrdd yr Iaith am eu hymateb.



HEFYD
Iaith: Rali i gryfhau mesur
16 Mai 09 |  Newyddion
Iaith: 'Angen statws cyfartal'
26 Tach 04 |  Newyddion
Cyflwyno deiseb deddf iaith
07 Chwef 07 |  Newyddion
Sector preifat: Defnyddio'r iaith?
23 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific