Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal 'ar adeg gyffrous'
|
Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol 2011 yn cael ei chynnal ar gyrion tref Wrecsam. Eisoes roedd bwriad i gynnal yr Eisteddfod yn Sir Wrecsam ond dydd Iau fe gafodd union leoliad y Maes ei gadarnhau. Dywedodd trefnwyr yr Eisteddfod y byddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir Fferm Lower Bers ar gyrion Wrecsam. Mae'r lleoliad oddi ar Ffordd Rhuthun ac yn ymyl Ysgol Clywedog. "Rydym yn dechrau gweddïo o heddiw ymlaen y bydd y trefniadau yn mynd yn eu blaen," meddai Aled Roberts, arweinydd Cyngor Wrecsam. 'Pwyllgor lleol' "Rydym o'r diwedd wedi setlo ar leoliad sydd mewn lle cyfleus. "Fe fyddwn ni'n cychwyn y broses o gael pwyllgor lleol at ei gilydd ym mis Medi." Dywedodd y byddai modd cerdded o'r Maes i ganol tref Wrecsam. Fe fyddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal, meddai, ar adeg gyffrous. "Rydym yn ymgynghori oherwydd chweched ysgol Gymraeg y sir fydd yn agor o fewn pythefnos i ddiwedd yr Eisteddfod yn y dref. 'Seithfed ysgol' "... efallai y byddwn ni erbyn 2011 yn ymgynghori ar y seithfed ysgol. "Mae'r twf yn y galw am addysg Gymraeg yn hwb i ni yn y sir. "Gallwn fod erbyn 2011 yn meddwl am ail ysgol uwchradd Gymraeg gan ein bod ni'n ymwybodol y gallai Ysgol Morgan Llwyd fod yn rhy fach. "Rydym yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod ymhen dwy flynedd."
|