Catherine Lowe yn derbyn ei gwobr gan Tudur Jones
|
Mae cyfieithydd ar ei liwt ei hun wedi derbyn Gwobr Goffa Wil Petherbridge 2009. Ar Faes yr Eisteddfod y derbyniodd Catherine Lowe o Dregarth ger Bangor ei gwobr. Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru sy'n cyflwyno'r wobr er cof am gyn-ysgrifennydd y mudiad. Roedd Wil Petherbridge o Gaerdydd yn arloeswr yn y byd cyfieithu. Dywedodd Catherine: "Fyddwn i ddim wedi breuddwydio sefyll yr un arholiad oni bai i Jane Owen, Cyfieithydd Cyngor Sir Ddinbych, awgrymu y byddai'n dda o beth i mi sefyll arholiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru gan fod cymhwyster felly'n debyg o ddod yn ofyniad cyffredinol cyn bo hir." Enillydd y llynedd, Tudur Jones, gyflwynodd y wobr mewn seremoni ar y Maes. 'Llongyfarch' "Rydym yn llongyfarch Catherine yn wresog ar ei champ," meddai Berwyn Prys Jones, cadeirydd y mudiad.
Berwyn Prys Jones, Catherine Lowe, CatrinPetherbridge, Tudur Jones a Sandra merch Wil Petherbridge
|
"Ar yr un pryd rydyn ni'n cofio'n annwyl iawn am gyfaill a chydweithiwr y bu ei golli'n ergyd drom iawn i ni i gyd." Daw Catherine o Lanfrothen ger Penrhyndeudraeth. Ar ôl mynd i Ysgol Ardudwy, Harlech, fe raddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio yn y cyfryngau, i'r BBC a chwmnïau annibynnol, cyn troi at gyfieithu dair blynedd yn ôl. Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno i'r un gafodd y marciau uchaf yn arholiadau Aelodaeth Sylfaenol y mymdeithas, cyfieithu i'r Gymraeg, yn ystod y ddwy rownd ym mis Hydref 2008 ac Ebrill 2009. Fe fydd y chwilio am enillydd 2010 yn dechrau ar Hydref 3 eleni pan fydd Arholiadau Aelodaeth nesaf y mudiad yn Aberystwyth, Caerdydd a Chaernarfon.
|