British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Awst 2009, 06:47 GMT 07:47 UK
Americanes yw Dysgwr y Flwyddyn

Meggan Lloyd Prys
Dysgodd Gymraeg ddiwrnod ar l cyrraedd Cymru

Meggan Lloyd Prys o Riwlas ger Bangor yw Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Meirion 2009.

Un o Ohio yn America yn wreiddiol yw Meggan wnaeth symud yma at ei chariad i briodi ddwy flynedd yn ôl.

Roedd hi'n un o bedwar oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Y tri arall oedd John Burton, yn wreiddiol o Crewe ond yn byw ym Mhenmachno, Zoe Morag Pettinger o Sir Hampshire ond yn byw yn Nhrisant, Aberystwyth, a Dominic Gilbert o Fanceinion.

Dywedodd Meggan ei bod hi wedi cael sioc o ennill.

"Roedd y tri arall yn dda iawn hefyd ond dwi'n hapus iawn.

"Cariad wnaeth fy arwain i Gymru. Ar ôl blwyddyn o deithio yn ôl ac ymlaen fe wnes i symud i fyw yma a phriodi."

'Syrpreis'

Roedd hi wedi cyfarfod ei gŵr Cynog wrth wneud cwrs MA ym Mhrifysgol Ohio.

Roedd wedi derbyn ysgoloriaeth Hybu Diwylliant Cymraeg.

"Roeddwn eisiau rhoi syrpreis i Cynog ac roedden ni eisiau dysgu'r Gymraeg a phriodi yn Gymraeg.

"Fe wenes i fynd i'r ysgol haf y diwrnod ar ôl i mi gyrraedd yma a mwynhau.

Cynog a Meggan Lloyd Prys
Cariad a ddenodd Meggan i Gymru

"Doedd hi ddim yn anodd dysgu Cymraeg ond roedd yn cymryd lot o amser ond mae'n bwysig mynd allan a siarad efo pobl yn Gymraeg a defnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth."

Mae hi'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg fel Cymhorthydd Dosbarth ac Anghenion Addysgol Arbennig Ysgol Llanfairpwll.

Dywedodd un o'r tri beirniad, Elin Williams: "Roedd y pedwar yn haeddu ennill ac fe fyddai unrhyw un wedi ennill mewn cystadleuaeth arall.

"Roedden yn chwilio am sawl elfen, bod yn rhugl, ynganu ac acen.

"Mae acen Meggan yn anhygoel, fydde neb yn meddwl ei bod yn dod o America.

"Roedden ni'n chwilio am lysgennad, rhywun sy'n ysbrydoli ac yn ysbrydoliaeth i ddysgu Cymraeg."

Mae'n bwysig, meddai, bod y dysgwyr yn codi proffil dysgu Cymraeg ac mae'r sylw ar y cyfryngau yn hwb mawr.

"Roedd y seremoni yn urddasol iawn ac arbennig."

Y ddau feirniad arall oedd Hayden Hughes a Clive Wolfendale.

Roedd y seremoni yng Nghanolfan Cywain, Y Bala, nos Fercher.

Roedd Tlws Dysgwr y Flwyddyn er cof am Marged Jones. Dysgwyr y Bala gyflwynodd y tlws ac roedd £300 yn rhoddedig gan Dafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn.

Fe fydd y tri arall yn derbyn Tlws a £100.

(chwith i'r dde) Zoe Morag Pettinger, Meggan Lloyd Prys, John Burton a Dominic Gilbert
Y pedwar oedd yn cystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn 2009



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific