British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 18:45 GMT 19:45 UK
Dim cerddor teilwng

Nos Fercher fe wnaeth beirniaid Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi nad oedd neb yn deilwng eleni.

Roedd pedwar ymgeisydd wedi cystadlu am y tlws a oedd yn rhodd gan Urdd Cerddoriaeth Cymru a £500 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Gan nad oedd Lyn Davies a Shân Cothi yn credu bod yr un ymgeisydd yn deilwng chafodd neb y wobr.

Cyfansoddi chwe chân, un ar gyfer pob un o'r lleisiau yn y gystadleuaeth unawdau dros 25 oed gyda chyfeiliant piano oedd y dasg.

Roedd y wobr hefyd yn cynnwys ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific