British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 16:05 GMT 17:05 UK
Merch leol yn cipio medal

Sian Melangell
Beirniad: Cyfrol yr awdur yn 'gampwaith o ysgrifennu dychmygus'

Merch leol o'r Bala sydd wedi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009.

Cafodd Siân Melangell Dafydd y fedal am sgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema Gwead.

Y beirniaid oedd Manon Rhys, Tony Bianchi ac Elwyn Ashford Jones.

Roedd wyth ymgais wedi eu hanfon a gwaith Y Mynydd Segur ddaeth i'r brig gyda'i chyfrol Y Trydydd Peth.

Lleoliad y gyfrol yw ardal yr Eisteddfod.

Dywedodd Tony Bianchi fod y gyfrol yn "gampwaith o ysgrifennu dychmygus" ac fe ddywedodd Elwyn Ashford Jones fod yma "dalp o wreiddioldeb a'r naratif yn byrlymu'n afreolus fel llif afon sy'n mynnu dilyn ei rhediad ei hun".

'Dyfeisgarwch'

Yn ôl Manon Rhys, roedd yr awdur yn "ddiffuant" yn ei manylder a'i gwybodaeth am ardal Penllyn.

"Edmygwn ddawn a dyfeisgarwch syfrdanol Y Mynydd Segur," meddai.

Cafodd Siân ei geni yn Nolgellau lle bu'n byw am dair blynedd cyn symud i hen dŷ cipar yng nghesail Garth Goch, prin filltir o gaeau'r Rhiwlas, safle'r Eisteddfod.

Cafodd ei haddysg yn Ysgolion Bro Tegid a'r Berwyn ond gorffennodd ei haddysg Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

Fe raddiodd gyda MA mewn hanes celf ym Mhrifysgol St Andrews yn Yr Alban ac mae hi wedi bod yn gweithio mewn orielau gwahanol, gan gynnwys Llundain a Chianti.

Paris

Bu'n gweithio fel rheolwr marchnata Sgript Cymru cyn gorffen cwrs MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich.

Erbyn hyn mae hi'n hunanliwtiwr, yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis lle mae hi'n ymchwilio i nofel.

Enillodd Goron Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn 1995 ac wedi anogaeth y beirniaid John Gwilym Jones, fe wnaeth barhau i ysgrifennu.

Yn 1998 a 1999 fe enillodd Goron yr Eisteddfod Ryng-golegol.

Yn ddiolchgar

Dywedodd ei bod yn ddiolchgar i'w thaid, Taid Bryn, am eistedd mewn cae gyda hi pan oedd hi'n ferch ifanc yn gwneud ei orau i ddysgu'r enwau Lladin ac enwau lleol pob llafn o laswellt iddi.

Mae'n ddiolchgar iddo am yr holl straeon, chwedlau a hanesion y cafodd ganddo.

Fe gyflwynodd y gyfrol i Jim Perrin am ysbrydoliaeth ei grefft ac am ei anogaeth, ei sicrwydd ac am "hafan i gwblhau swmp o'r gwaith ym Mynyddoedd y Pyrenees".

Roedd ei ffugenw - Mynydd Segur - yn debyg i Montsegur, Ariege-Pyrenees, castell Cathare ger y lle y bu'n ysgrifennu rhan fwyaf ei nofel.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific