British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 15:02 GMT 16:02 UK
Hwb o 30,000 i fenter leol

Dyfed Edwards Cyngor Gwyendd, Neil Baldwin ac Edwina Roberts o Magnox North a Ceri Cunnington o Antur Stiniog
Dyfed Edwards, Neil Baldwin, Edwina Roberts o Magnox a Ceri Cunnington o Antur Stiniog

Mae menter leol, Antur Stiniog, wedi derbyn siec £30,000 oddi wrth un o noddwyr yr Eisteddfod.

Dywedodd Energy Solutions, sy'n rheoli 10 o orsafoedd Magnox, eu bod yn falch o helpu "mewn modd ymarferol".

Fe fydd yr arian, rhan o gyfraniad y cwmni wrth ddadgomisiynu atomfa Trawsfynydd, yn hybu ardal tref Blaenau Ffestiniog.

Nod yr antur yw gwario £2.2 miliwn ar ddatblygu llwybrau beicio mynydd yn ardal Blaenau Ffestinog.

Dywedodd Ceri Cunnington, rheolwr yr antur: "Mae'r siec yn rhoi hyder i ni barhau â'n cynlluniau.

'Llawer mwy'

"Yn amlwg, rydan ni'n gwerthfawrogi'r arian sylweddol ... ond mi fyddwn ni'n cynnig llawer mwy na dim ond llwybr beics."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Magnox North, Neil Baldwin: "Rydyn ni'n cyfrannu er mwyn creu dyfodol.

"Heb os, mae hon yn ardal brydferth ac mae'r diwydiant beicio ar gynnydd.

"Fe fydd hyn yn hybu ymwelwyr, yn creu swyddi ac yn gwarchod bro."

Dywedodd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, eu bod fel sir yn ddiolchgar i ymrwymiad Magnox i'r ardal.

"Mae 'na 50 mlynedd ers i'r gwaith gychwyn ar adeilad safle Trawsfynydd a roddodd gyflogaeth i gannoedd o filoedd dros y blynyddoedd.

'Gwarchod'

"Roedd yn gwarchod y Gymraeg a'r diwylliant mewn rhan allweddol o Wynedd.

"Rwan mae 'na ddablygiad pwysig arall, gwarchod bro a chynnig swyddi yn sgîl y dadgomisiynu."

Roedd yr ardal, meddai, wedi wynebu caledi dros y blynyddoedd wrth i swyddi ddod i ben.

"Ein gobaith ydi ... y gallwn gychwyn ar y gwaith o greu dyfodol economaidd i'r ardal yn union fel y digywddodd 50 mlynedd yn ôl."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific