British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 13:13 GMT 14:13 UK
Cannoedd yn ciwio i fynd i'r Maes

Pobl yn aros i brynu tocynnau
Eisteddfod: Ciwiau'n 'arwydd o lwyddiant'

Mae cannoedd wedi bod yn ciwio i fynd i'r Maes ddydd Mercher.

Weithiau fore Mercher roedd pobl yn aros am chwarter awr a mwy i groesi'r ffordd a mynd i'r Maes.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod y ciwiau'n arwydd o lwyddiant.

"Rydym yn dal i annog pobl i ddod i'r Maes, y rhai sydd eisoes wedi bod a'r rhai sydd heb fentro eto," meddai Gwenllïan Carr, Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod.

Nifer ymwelwyr
Nos Wener: 1,245
Dydd Sadwrn: 18,216
Dydd Sul: 15,292
Dydd Llun: 19,658
Dydd Mawrth: 18,113

"Mae'r system bariau wedi ei gosod i'r rhai sydd heb brynu tocynnau ac mae 'na fynedfa arall i'r rhai sydd wedi cael tocynnau yn barod.

"Roedd yn amhosib rhagweld faint o bobl fyddai'n dod, ond ddylen ni ddim cwyno."

Dywedodd Elfyn Llwyd, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith: "Rhaid codi'n gynnar i ddal iâr.

"Mae'r drafnidiaeth wedi bod yn hwylus iawn ... popeth wedi gweithio fel wats.

"O weld llwyddiant hyd yma dwi'n siŵr y bydd hon yn rhagori ar Eisteddfod 1997.

"Mae Croeso Meirion yn gynnes iawn a 'dan ni'n gwybod sut i drefnu Steddfod."

'Gwahanol'

Yn y cyfamser, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "O gofio nad oes 'na boblogaeth fawr yn yr ardal mae'r ganran o bobl sy'n Eisteddfodwyr ymhlith yr ucha."

Roedd yn ymweld â'r Maes ddydd Mercher.

Fe fyddai cynnal y Brifwyl, meddai, yng Nglyn Ebwy y flwyddyn nesa'n her am ei bod hi'n "ardal gwbl wahanol".

Ond dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Er nad yw canran sylweddol yn Gymry Cymraeg maen nhw'n cyfri eu hunain yn Gymry.

"Dwi'n siwr fod 'na fwy o falchder yno nag yn nifer o ardaloedd eraill y mae'r Brifwyl wedi ymweld â nhw."

Pobl yn croesi ffordd i ddod i'r maes
Elfyn Llwyd: '... dwi'n siŵr y bydd hon yn rhagori ar Eisteddfod 1997'



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific