British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 14:16 GMT 15:16 UK
Ymgyrch: Bron 750 mewn cylch

Bras Merched y Wawr
Ar newydd wedd: Aelodau Merched y Wawr

Roedd 'na olygfa anarferol ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher wrth i gadwyn o fwy na 700 o fronglymau amgylchynu'r Pafiliwn.

Nodi llwyddiant ymgyrch Merched y Wawr ac elusen Oxfam yr oedd hyn.

Ers mis Medi 2008 mae'r ddau fudiad wedi bod yn casglu hen fronglymau er mwyn eu hanfon nhw at rannau tlotaf y byd, o Affrica i Ddwyrain Ewrop.

Neges syml yr ymgyrch oedd bod 'na "fywyd o hyd mewn hen fra".

Fe gafodd 12,000 eu casglu yn lle eu taflu i'r bin.

"Mae'r ymgyrch wedi bod yn wych ac mae wedi yn rhwydd i'r aelodau gymryd rhan," meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.

'Hinsawdd'

"Rydyn ni wedi clywed cymaint am ailgylchu papurau a photeli.

"Mae'r ymgyrch wedi gwneud i'n haelodau feddwl eto am wastraff a sut y gallwn ni chwarae'n rhan yn y frwydr i newid hinsawdd."

Dywedodd Luned Jones o Oxfam Cymru fod y bronglymau'n cael eu hallforio i Affrica, Dwyrain Ewrop ac Asia ar gyfer y farchnad dillad ail-law.

"Mae bra yn rhywbeth prin yn y farchnad honno.

"Fel mae aelodau Merched y Wawr yn ei wybod, mae bra yn rhywbeth cymhleth i'w wneud.

"Fe fydd y bras yn mynd i'r rhai sydd wirioneddol eu hangen.

"Rydyn ni'n synnu at yr ymateb i'r ymgyrch," ychwanegodd.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific