British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 19:11 GMT 20:11 UK
Dwy o'r Wladfa: AS yn 'gandryll'

'Ffrae ddiplomyddol'

Mae Aelod Seneddol yn "gandryll" am fod dwy o Batagonia wedi cael gwybod unwaith eto na fyddan nhw'n cael dod i Gymru.

Y gobaith oedd y byddai'r ddwy, Shirley Edwards ac Evelyn Calcabrini, yn cael dod i'r Brifwyl yn y Bala.

Fe gafodd Elfyn Llwyd, AS Meirionnydd Nant Conwy a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl, gadarnhâd oddi wrth y Swyddfa Gartref na fyddai'r ddwy'n cael mynediad.

Mae Asiantaeth y Ffiniau wedi dweud nad yw'r ddwy'n cydymffurfio â'r rheolau mewnfudo.

"Dwi o 'nghof ynglŷn â'r peth," meddai'r AS.

"Mae'r cynulliad yn rhoi cymhorthdal i bobl ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia a'r weithred ddiweddara'n tanseilio'r cyfan.

'Rhagfarn'

"Dyw'r esboniad ddim yn werth y papur y mae wedi ei sgrifennu arno."

Dywedodd y byddai'n gofyn am gyfarfod â'r Ysgrifennydd Tramor, David Milliband.

"Mae 'na ragfarn yn erbyn y ddwy a rhaid i ni sathru ar y rhagfarn.

"Mi ddylai'r bobl hyn gael yr hawl i arfer y Gymraeg yn y wlad hon."

Cafodd mwy na £1,500 ei godi mewn cyngerdd yn Nant Peris yng nghanol mis Gorffennaf i helpu'r ddwy o Batagonia. Y gobaith oedd prynu tocyn awyren iddyn nhw.

"Rydym yn derbyn bod unigolion am deithio yma i ddysgu iaith ac ni chafodd y ddwy eu gwrthod am ein bod ni'n amau'r bwriad.

"Rhaid i ymwelwyr ddilyn ein rheolau mewnfudo, hynny yw dangos eu bod yn ymwelwyr gwirioneddol, bod modd iddyn nhw gynnal eu hunain - heb ddibynnu ar fudd-daliadau na swyddi - ac y byddan nhw'n gadael ar ddiwedd yr ymweliad."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


HEFYD
Patagonia: Cyngerdd yn codi 1,600
12 Gorff 09 |  Newyddion
Y Wladfa: Hwb i gynllun iaith
09 Gorff 09 |  Newyddion
Patagonia: Cyfarfod yn fuan
10 Meh 09 |  Newyddion
Y Wladfa: Dau'n teithio o Gymru
03 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific