British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 05:55 GMT 06:55 UK
Galw am ddileu pasys bws am ddim

Pensiynwr ar fws
Hyd yn hyn mae'r cynllun wedi bod yn boblogaidd

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei hannog i gael gwared ar y polisi o roi pasys bysiau am ddim i bensiynwyr yng Nghymru.

Ac mae'r grŵp sy'n rhoi cyngor arbenigol yn rhybuddio bod y cynllun yn "anfforddiadwy".

Yn y flwyddyn ariannol 2008-9 fe gostiodd y cynllun £230 miliwn ac mae'r grŵp wedi argymell "targedu mwy penodol".

Hyd yn hyn mae'r cynllun wedi bod yn boblogaidd.

Ond mae'r grŵp wedi dweud bod modd arbed £25 miliwn drwy gyfyngu'r cynllun i bensiynwyr ar incwm yn is na'r cyfartaledd Prydeinig.

Dylai adolygiad, meddai, ganolbwyntio ar rai fel y di-waith a thrigolion mewn ardaloedd arbennig fel teithwyr yng Nghymoedd y De.

'Dim newid'

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad: "Rydyn ni wedi nodi'n glir nad ydyn ni'n mynd i gael gwared ar gynllun llwyddiannus a phoblogaidd ...

"Does dim cynllun i newid y rheolau sy'n pennu pwy yw'r bobl sy'n elwa ar y cynllun.

"Rydyn ni ond yn cynnal archwiliad ar gyfer y system ad-dalu rhwng Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus - er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael gwerth ein arian."

Ond mae llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi a thrafnidiaeth, David Melding, wedi cefnogi argymhellion y grŵp.

"Mae angen gwario'r arian yn fwy effeithiol," meddai.

"Y cam cyntaf fyddai sicrhau nad yw'r cynllun mewn grym yn ystod oriau brig ..."

'Ar eu colled'

Dywedodd Mr Emlyn Lloyd, Ysgrifennydd Cynorthwyol Cymdeithas Genedlaethol Pensiynwyr Cymru, y byddai'r argymhellion hyn yn achos gofid.

"Fe fyddai'r henoed ar eu colled achos mae'r cynllun wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth adael iddyn nhw deithio, cwrdd â phobl, a siopa.

"Os yw'r cynllun yn dod i ben, does dim dwywaith y byddai'r gost yn faich ..."

Dylai Llywodraeth y Cynulliad, meddai, ehangu gwasanaethau am ddim i'r henoed.

"Mae Cyprus yn mynd ymhellach gan roi cerdyn cymdeithasol sy'n cynnig mynediad am ddim i gyngherddau a sefydliadau ..."

Dylid cofio, meddai, fod y pensiwn gwladol yn "llawer is na'r cyfartaledd Ewropeaidd."



HEFYD
Trafnidiaeth: 'Angen cydlynu'
17 Gorff 09 |  Newyddion
Bysus: Dyfodol ansicr?
17 Chwef 09 |  Newyddion
Cynllun trafnidiaeth £350 miliwn
06 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific