British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 16:31 GMT 17:31 UK
'Dewin llenyddol' yn ennill medal

Fflur Dafydd
Beirniaid: Nofel Fflur wedi eu 'sgubo oddi ar eu traed'

Fflur Dafydd enillodd Wobr Goffa Daniel Owen eleni am ei nofel Y Llyfrgell a hynny ddyddiau yn unig ar ôl priodi.

Hi gafodd y wobr am sgrifennu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Y beirniaid oedd John Rowlands, Geraint Vaughan Jones a Rhiannon Lloyd a'r tri'n gytûn mai gwaith Palindrom oedd y gorau.

Dywedodd John Rowlands fod yr awdur yn "ddewin llenyddol" luniodd "nofel anghyffredin dros ben".

'Sgubo'

Roedd y nofel, meddai, wedi "sgubo" y beirniaid oddi ar eu traed.

"Dyma nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel," meddai Rhiannon Lloyd.

Dywedodd Geraint Vaughan Jones fod hon yn "nofel wedi ei chynllunio'n ofalus ac yn gyforiog o hiwmor a choegni a chlyfrwch tafod-mewn-boch".

A dywedodd Mr Rowlands fod 'na themâu ynddi i gnoi cil arnyn nhw.

"Yn sylfaenol, nofel am golli cof cenedl yw hon ... ond nid yw dweud hynny yn gwneud cyfiawnder â hi ...

"Cryfder yr awdur yw nid fod ganddo weledigaeth yn unig ond ei fod wedi llwyddo i roi cig a gwaed am esgyrn sychion y weledigaeth a chreu darn o lenyddiaeth sy'n bleser pur ar sawl lefel.

'Dyfeisgar'

"Mae'n awdur dyfeisgar dros ben."

Cefndir y nofel yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn y flwyddyn 2020.

Mae Y Llyfrgell yn dilyn criw o gymeriadau yn ystod diwrnod dramatig pan fydd dwy lyfrgellwraig arfog yn meddiannu'r llyfrgell.

Dydd Sadwrn roedd Fflur yn priodi Iwan Evans.

Fflur Dafydd
Mae'r nofel yn 'torri tir newydd'

Hi enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn 2006 am ei nofel Atyniad.

Yn gynharach eleni fe enillodd wobr Awdur Ifanc Oxfam a Gŵyl y Gelli am ei nofel Saesneg Twenty Thousand Saints.

Dywedodd Fflur iddi gael ei hysbrydoli i sgrifennu'r nofel ddiweddara pan oedd hi'n gorffen doethuriaeth am R S Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2004.

"Ro'n i'n ffeindio fy hun yn dychmygu pob math o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y llyfrgell yn lle canolbwyntio ar fy ngwaith," meddai.

"Mae 'na rywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped coch, y pileri gwyn a'r cysyniad am holl gyfrinachau mewn un man."

Tir newydd

Mae hi'n nofel, meddai, sy'n torri tir newydd gan iddi gael ei lleoli yn llwyr yn y llyfrgell ac mae hi'n "gwthio'r ffin rhwng y real a'r abswrd".

Cafodd Fflur ei magu yn ardal Llandysul ac fe raddiodd yn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn derbyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Mae hi bellach yn darlithio yn yr Adran Saesneg yn Abertawe.

Ac mae'r gantores a chyfansoddwraig ar fin cyhoeddi ei thrydydd albwm.

Cafodd y fedal goffa a £5,000 ei rhoi gan Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd a siop Awen Meirion yn Y Bala.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific