British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 12:22 GMT 13:22 UK
Y ffn sy'n hwb i ddysgwyr

Gwers Gymraeg ar y ffon
'Hen bryd bod yr help ar gael i ddysgwyr yr iaith'

Mae modd dysgu Cymraeg drwy ddefnyddio ffôn symudol.

Prifsygol Aberystwyth sy wedi datblygu cyfres Learn Welsh y mae modd ei defnyddio ar ffonau iPhone.

"Llawlyfr" brawddegau Cymraeg-Saesneg yw hwn ar gyfer iPhone diweddaraf cwmni Apple.

Cafodd y gwasanaeth ei lansio ar Faes yr Eisteddfod yn Y Bala ddydd Mawrth.

Yr Athro Chris Price, Pennaeth Adran Gyfrifiadureg y brifysgol a dysgwr Cymraeg, sydd wedi datblygu'r llyfryn ar gael i'w lawrlwytho o iTunes am 59 ceiniog.

Mae'r llyfryn wedi ei selio ar brofiadau Chris yn dysgu'r Gymraeg.

Gwers
Y manylion wedi eu seilio ar brofiadau Chris wrth ddysgu

Mae 'na 12 adran sy'n cynnwys cyfarchion, brawddegau cyffredin, bwyd a diod, a theithio a thywydd.

Yn ogystal â gweld y geiriau mae Chris wedi recordio pob gair neu frawddeg er mwyn gwella ynganiad.

Ac mae modd i ddysgwyr brofi eu hunain wrth ddysgu'r iaith.

"Mae nifer o apps (rhaglenni) ar gyfer dysgu ieithoedd eraill ar gael i ddefnyddwyr yr iPhone," meddai.

"Erbyn hyn, mae 27 yn Ffrangeg, 23 ar gyfer dysgu Eidaleg, er enghraifft, a hyd yn oed un ar gyfer y Wyddeleg a Tagalog, iaith sydd yn cael ei siarad yn Ynysoedd y Philipinau.

"Roedd yn hen bryd felly fod help o'r math hwn ar gael i bobl sy'n dysgu Cymraeg."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific